Mater - cyfarfodydd

Capital Budget Monitoring Report - Quarter 3, 2024/25

Cyfarfod: 18/02/2025 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 7)

7 Monitro Cyllideb Gyfalaf - Chwarter 3, 2024/25 pdf eicon PDF 698 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD -

·         Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2024/25 yn ystod chwarter 3.

·         Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol gwerth £2.696m a ychwanegwyd i’r rhaglen gyfalaf yn ystod chwarter 3 a newidiadau mewn cyllid, yn unol ag Atodiad C, fydd yn rhoi cyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £75.173m ar gyfer 2024/25.

·         Cytuno bod unrhyw danwariant posib yn cael ei ddwyn ymlaen, fel y nodir yn adran 4.2 o’r adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i sylw’r Pwyllgor Gwaith yn nodi perfformiad ariannol y Gyllideb Gyfalaf ar ddiwedd Chwarter 3, blwyddyn ariannol 2024/2025.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid a Gwasanaethau Tai fod cyllideb gyfalaf flynyddol ar gyfer 2024/2025 wedi'i gosod ar £75.173m. Y gwariant gwirioneddol hyd at chwarter 3 yw £38,603m, gyda gwariant ymrwymedig o £2.613m sef cyfanswm o £41.216m sydd wedi'i ariannu gan grantiau cyfalaf.  Rhagwelir y bydd tanwariant o fewn y gyllideb gyfalaf.  Nododd y bydd unrhyw brosiectau sydd wedi llithro o eleni ymlaen yn cael eu trosglwyddo i'r flwyddyn ariannol nesaf.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod cyllid grant yn hanfodol i ariannu prosiectau cyfalaf o fewn y Cyngor gyda chyfanswm o £46m allan o'r gyllideb gyfalaf flynyddol o £75m.  Nododd y rhagwelir tanwariant o £8.171m, yn benodol ar brosiectau Ffyniant Bro Llywodraeth y DU yng Nghaergybi o £3.4m fydd yn cael ei drosglwyddo i’r flwyddyn ariannol nesaf.  Mae’r Cyfrif Refeniw Tai hefyd yn tanwario £1.7m a £0.5m o fewn prosiectau’r ysgol oherwydd cyllid grant a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru. Rhagwelir hefyd y bydd cynlluniau Lliniaru Llifogydd yn tanwario yn erbyn y gyllideb, er y byddant yn llithro i'r flwyddyn ariannol nesaf.  Mae prosiectau ynni Carbon Isel hefyd yn tanwario oherwydd eu bod yn aros am ymateb gan Lywodraeth Cymru i lithro'r prosiectau i'r flwyddyn ariannol nesaf.  Dywedodd fod prosiect Hwb Cymunedol Glanhwfa hefyd yn tanwario ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·         Nodi cynnydd y gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2024/2025 yn chwarter 3;

·         Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol o fewn chwarter 3, sydd â chyfanswm o £2.696m, i’r rhaglen gyfalaf ac addasiadau i gyllid, fel y nodir yn Atodiad C, fydd yn arwain at gyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £75.173m ar gyfer 2024/2025;

·         Cymeradwyo’r gwaith o gario tanwariant posibl ymlaen, fel y nodir yn Adran 4.2 yr adroddiad.