13 Adolygu Polisi Iaith Gymraeg Cyngor Sir Ynys Môn
PDF 466 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD :-
· Argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn mabwysiadu’r Polisi Iaith Gymraeg diwygiedig.
· Cefnogi argymhellion y Pwyllgor Sgriwtini a Phartneriaeth a gynhaliwyd ar 12 Chwefror, 2025, bod:-
· llythyr yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru yn pwysleisio’r angen am ddeddfwriaeth newydd er mwyn amddiffyn enwau Cymraeg hanesyddol;
· gofyn i Arweinydd y Cyngor godi’r mater gyda’r WLGA.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, oedd yn cynnwys adolygiad ar Bolisi Iaith Gymraeg y Cyngor, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg a’r Iaith Gymraeg, fod polisi iaith Gymraeg cyfredol y Cyngor wedi’i fabwysiadu yn 2016, pan ddaeth safonau iaith Gymraeg statudol i rym, ac ers hynny, mae dealltwriaeth ynghylch y safonau wedi aeddfedu ac mae arferion yr Awdurdod mewn perthynas â’r iaith wedi datblygu’n sylweddol. Mae’r polisi iaith Gymraeg yn effeithio ar y rheiny sy’n delio gyda'r Cyngor, ac mae’r polisi drafft wedi’i baratoi er mwyn bodloni gofynion statudol safonau’r iaith Gymraeg. Dywedodd fod y polisi drafft yn cyfrannu at amcanion Cynllun y Cyngor, a strategaeth hyrwyddo’r iaith Gymraeg.
Amlinellodd y Cynghorydd Gwilym O Jones, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, y materion a godwyd pan gyflwynwyd yr adolygiad ar bolisi iaith Gymraeg y Cyngor i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 12 Chwefror, 2025. Ar ôl ystyried yr adolygiad ar y Polisi Iaith Gymraeg ac ymatebion y Swyddog a’r Aelod Portffolio i’r pwyntiau a godwyd yn y cyfarfod, penderfynodd y Pwyllgor argymell y polisi i’w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith ac i’w fabwysiadu gan y Cyngor Llawn, gan nodi bod llythyr yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru yn gofyn ac yn pwysleisio ar yr angen am ddeddfwriaeth newydd i warchod enwau lleoedd hanesyddol Cymreig a gofyn i Arweinydd y Cyngor godi’r mater gyda’r CLlLC.
Roedd aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn croesawu’r adolygiad drafft ar y polisi iaith Gymraeg, sy’n dangos ymrwymiad yr Awdurdod tuag at yr iaith.
PENDERFYNWYD:-
· Anfon llythyr at Lywodraeth Cymru yn gofyn ac yn pwysleisio ar yr angen am ddeddfwriaeth newydd i warchod enwau lleoedd hanesyddol Cymreig.
· Fod Arweinydd y Cyngor yn codi’r mater gyda’r CLlLC.