7.1 FPL/2024/230 – Mona House, Ffordd Caergybi, Gwalchmai
7.2 FPL/2024/65 – Bryn Cwr, Gwalchmai
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
7.1 FPL/2024/230 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd llawr gwaelod presennol yr annedd i fod yn rhan o’r siop bresennol (Defnydd A1) ym Mona House, Ffordd Caergybi, Gwalchmai
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
7.2 FPL/2024/65 – Cais ôl-weithredol ar gyfer creu lagŵn slyri ar dir ger Bryn Cwr, Gwalchmai
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ac ar ddiwygio amod (03) i ddweud bod rhaid gosod yr holl ffensys o fewn tri mis i ddyddiad y caniatâd cynllunio.
Cofnodion:
FPL/2024/230 –Cais llawn ar gyfer newid defnydd llawr gwaelod presennol yr annedd i fod yn rhan o’r siop bresennol (Defnydd A1) ym Mona House, Ffordd Caergybi, Gwalchmai
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol a oedd yn poeni y byddai’r cynnig yn dwysau’r problemau parcio a thraffig yn yr ardal leol. Yn ei gyfarfod ar 4 Rhagfyr 2024, penderfynodd y Pwyllgor gynnal ymweliad safle a chynhaliwyd yr ymweliad safle ar 18 Rhagfyr 2024.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn ymwneud ag ymestyn y cyfleuster manwerthu presennol i’r annedd breswyl drws nesaf a chreu fflat un ystafell wely uwch ben a darparu grisiau yn y cefn er mwyn cael mynediad i’r fflat. Bydd y cynllun yn cynyddu maint yr uned bresennol yn unig a ni fydd unrhyw unedau newydd yn cael eu creu. O’r herwydd mae’r cynllun yn dderbyniol o ran egwyddor a bydd rhaid ei ystyried yn erbyn ystyriaethau perthnasol eraill. Mae’r prif bryderon yn ymwneud â’r briffordd a dyma pam bod y cais wedi cael ei alw i mewn gan yr Aelod Lleol. Gan fod y cais yn bwriadu cynyddu arwynebedd llawr y siop 37m2 mae safonau parcio’r Awdurdod Priffyrdd yn nodi bod rhaid darparu 3 lle parcio. Fel rhan o’r cynllun bydd 3 lle parcio’n cael ei greu yng nghefn y safle a bydd y fynedfa bresennol oddi ar yr A5 yn cael ei defnyddio. Mae’r 3 lle parcio ychwanegol ynghyd â’r fynedfa, sy’n darparu llain welededd ddigonol o 2.4m x 45m, yn dderbyniol ym marn yr Awdurdod Priffyrdd. Mae pryderon yr Aelod Lleol yn ymwneud â phroblemau traffig a pharcio yn y lleoliad hwn, fodd bynnag nid oes dyletswydd ar y broses cynllunio i ddatrys problemau parcio sy’n bodloni eisoes. O ran y cais dan sylw, mae’r holl ofynion parcio wedi cael eu bodloni ac felly nid oes sail dros ei wrthod am y rheswm hwn. Fe wnaeth y Rheolwr Datblygu Cynllunio amlygu na fydd cynyddu maint y siop o reidrwydd yn cynyddu’r defnydd na’n dwysau’r problemau traffig. Mae’r siop yn ased cymunedol a bydd y 3 lle parcio ychwanegol yn helpu i wella’r sefyllfa parcio ar y cyfan. Nid yw’r Cyngor Cymuned wedi gwrthwynebu’r cais yn uniongyrchol ac nid yw’r adran wedi derbyn unrhyw lythyrau ganddo. Felly, mae’r Swyddog yn argymell cymeradwyo’r cais.
Darllenodd y Cadeirydd sylwadau a oedd wedi’u hafon ato ef a’r Rheolwr Datblygu Cynllunio yn gysylltiedig â chais y Cynghorydd Neville Evans, sy’n aelod o’r Pwyllgor ac Aelod Lleol, a oedd methu â bod yn bresennol. Roedd y sylwadau’n cyfeirio at lythyr yr oedd wedi’i dderbyn gan y Cyngor Cymuned ynglŷn â’r problemau parcio, yn benodol y risg o ddamwain pe byddai cerbyd yn bacio’n ôl i’r ffordd o’r lle parcio bach ar gyfer 3 cerbyd a welwyd ar yr ymweliad safle. Cadarnhaodd y Cynghorydd Evans nad oedd ganddo ef na’r Cyngor Cymuned unrhyw wrthwynebiad i’r siop ond ei fod yn dymuno nodi a chofnodi’r sefyllfa annioddefol yn ardal Gwalchmai oherwydd y problemau ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7