12 Gweddill y Ceisiadau
PDF 359 KB
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 FPL/2024/209 – Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw’r gwaith adfer ar Afon Braint ac Afon Eryr Uchaf ar dir ger Canolfan Rheoli Gwastraff y Cartref, Penhesgyn
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Cofnodion:
12.1 FPL/2024/209 – Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw’r gwaith adfer ar Afon Braint ac Afon Eryr Uchaf ar dir ger Canolfan Rheoli Gwastraff y Cartref, Penhesgyn
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan Gyngor Sir Ynys Môn.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais ar gyfer cadw gwaith adfer ar Afon Braint fydd yn arwain at drefniadau hydrolegol mwy naturiol ac amrywiol er mwyn gwella cynefin ar gyfer rhywogaethau dyfrol a gwella trefniadau rheoli llifogydd ac ansawdd dŵr. Prif amcanion y cynllun yw gwella gallu’r afon i ymdopi â dŵr llifogydd a gwella ei gwerth ecolegol. Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at brif waith peirianyddol y cynllun a beth y mae’r gwaith yn ei olygu fel sydd wedi’i ddisgrifio yn adroddiad y Swyddog. Cadarnhaodd bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gofyn am wybodaeth ychwanegol a oedd yn dderbyniol a bod Swyddog Ecolegol y Cyngor wedi asesu’r Datganiad Seilwaith Gwyrdd sy’n cefnogi’r cais a’i fod yn fodlon â’r cynnig. Argymhellwyd bod y cais yn cael ei gymeradwyo.
Cynigodd y Cynghorydd Geraint Bebb bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.