Mater - cyfarfodydd

Independent Sector Care Home Fees for 2025/26

Cyfarfod: 18/02/2025 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 11)

11 Ffioedd Cartrefi Gofal y Sector Annibynnol ar gyfer 2025/26 pdf eicon PDF 199 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Oedoilion.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD -

·     Cymeradwyo’r argymhelliad i gynyddu lefel y ffioedd fel a ganlyn:-

 

·     Gofal Preswyl (Pobl Hŷn) - £832.56 bob wythnos

·     Preswyl (EMI) - £930.37 bob wythnos

·     Gofal Nyrsio (Elfen Gofal Cymdeithasol) - £906.70 bob wythnos

·        Nyrsio (EMI) (Elfen Gofal Cymdeithasol) - £1,071.41 bob wythnos

 

·         Awdurdodi’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gwasanaeth Cyllid i ymateb i unrhyw geisiadau gan gartrefi unigol i ymchwilio i’w cyfrifon penodol a defnyddio’r ymarfer fel sail i ystyried unrhyw eithriadau i’r ffioedd a gytunwyd.  Unrhyw eithriadau i’w cytuno gyda’r Aelod Portffolio Gwasanaeth Oedolion, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion o oddi mewn i’r cyllidebau presennol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i osod y gyfradd ar gyfer ffioedd cartrefi gofal y sector preifat ar gyfer 2025/2026, yn unol â gofynion Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, Diogelu’r Gymuned a Chydraddoldeb, yr adroddiad oedd yn gosod y lefelau ffi arfaethedig ar gyfer Gofal Preswyl, Preswyl Henoed Bregus eu Meddwl, Nyrsio a Nyrsio Henoed Bregus eu Meddwl ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26. Gofynnir i’r Awdurdod Lleol adolygu ffioedd cartrefi gofal y sector annibynnol yn flynyddol er mwyn cyd-fynd â newidiadau’r Llywodraeth Ganolog i lefelau budd-daliadau a phensiynau. Mae’r cynnig i gynyddu ffioedd o 7%.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion, wrth osod lefelau’r ffi ar gyfer cartrefi gofal annibynnol, fod rhaid i’r Cyngor ddangos ei fod wedi ystyried cost y ddarpariaeth yn llawn wrth bennu ei ffioedd gofal sylfaenol. Mae’r cynnydd yn sgil pwysau ariannol mae’r darparwyr yn eu hwynebu oherwydd cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol a chynnydd yn y cyflog byw gwirioneddol. Wrth adolygu lefel ffioedd, dylid ystyried amgylchiadau lleol, galw ac argaeledd darpariaeth, yn ogystal â’r fformiwla ranbarthol. Gellir trafod ffioedd unigol gyda darparwyr pan fydd amgylchiadau eithriadol yn codi.

 

Gofynnodd aelodau’r Pwyllgor Gwaith a yw’r Llywodraeth yn ystyried y cyfrifiad a’R newid mewn poblogaeth henoed ym mhob awdurdod lleol. Gofynnwyd cwestiynau pellach ynghylch y trothwy lle gall pobl fforddio talu am eu gofal, ac a yw Gofal Nyrsio Henoed Bregus eu Meddwl wedi cynyddu. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod lefel y ffioedd yn cael ei gosod yn ôl y cyfraniad ariannol mae’r Awdurdod yn ei dderbyn. Dywedodd, pan fydd incwm unigolyn yn disgyn dan y trothwy £50k, bydd yr Awdurdod yn cyfrannu at y gofal. Dywedodd fod Gofal Nyrsio Henoed Bregus eu Meddwl yn parhau i gynyddu, a bod y ddarpariaeth yn gyfyngedig ar draws y sector. Mae’r Awdurdod wedi parhau i addasu’r ddarpariaeth gyda Chartrefi Gofal yr Awdurdod drwy gynnig lleoedd ychwanegol ond gan mai dim ond gofal preswyl mae’r Awdurdod yn ei ddarparu, bydd rhaid i’r sector annibynnol fodloni gofynion Gofal Nyrsio Henoed Bregus eu Meddwl.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  • Cymeradwyo’r argymhelliad i gynyddu lefel y ffi fel a ganlyn:-

 

Gofal Preswyl (Oedolion) - £832.56 yr wythnos

Preswyl (Henoed Bregus eu Meddwl) - £930.37 yr wythnos

Gofal Nyrsio (Elfen Gofal Cymdeithasol) - £906.70 yr wythnos

Gofal Nyrsio (Henoed Bregus eu Meddwl) (Elfen Gofal Cymdeithasol) - £1,071.41 yr wythnos

 

·                 Rhoi awdurdod i’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gwasanaeth Cyllid ymateb i unrhyw geisiadau gan gartrefi unigol i edrych ar eu cyfrifon penodol a defnyddio’r ymarferiad fel sylfaen er mwyn ystyried unrhyw eithriadau i’r ffioedd y cytunwyd arnynt. Bydd rhaid cael cytundeb yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a Phennaeth y Gwasanaethau Oedolion ar gyfer unrhyw eithriadau o fewn cyllidebau cyfredol.