Mater - cyfarfodydd

The Executive's Forward Work Programme

Cyfarfod: 29/04/2025 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 5)

5 Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 222 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Mai i Ragfyr 2025 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Mai a Rhagfyr 2025 i'w gadarnhau.

 

Rhoddodd y Pennaeth Democratiaeth ddiweddariad i'r Pwyllgor Gwaith am y newidiadau i'r Blaen Raglen Waith. Roedd y rhain yn cynnwys ychwanegu Hunanasesiad Corfforaethol Drafft 2024/25, y Ddogfen Gyflawni Flynyddol 2025/26 a Phrofion Modd - Grant Cyfleusterau i'r Anabl at agenda cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 24 Mehefin 2025. Hefyd, mae'r Hunanasesiad Corfforaethol a'r Adroddiad Perfformiad a Lles Blynyddol 2024/25 wedi'i ychwanegu at agenda cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 23 Medi 2025.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi'i diweddaru ar gyfer y cyfnod rhwng Mai a Rhagfyr 2025 gyda'r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.