6 Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Ymddiriedolaeth Addysg Bellach 2023/24
PDF 541 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Drafft Ymddiriedoleth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer y flwyddyn 2023/24 (Atodiad A yr adroddiad).
· Dirprwyo’r awdurdod i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 lofnodi’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon Terfynol a’u ffeilio gyda’r Comisiwn Elusennol ar ôlcwblhau’r archwiliad yn foddhaol.
· Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i gomisiynu adolygiad allanol o weithrediad ac opsiynau buddsoddi’r Ymddiriedolaethau.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys Ystâd Elusennol David Hughes ac Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Yn ôl y Comisiwn Elusennau mae’n ofynnol i’r cyfrifon blynyddol gael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith fel corff cyfrifol yr Ymddiriedolaethau.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai, yr adroddiad gan amlinellu cefndir Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn, ei statws cyfreithiol a'r gwahanol elfennau ynddi. Mae'r adroddiad hefyd yn darparu crynodeb o berfformiad ariannol yr Ymddiriedolaeth yn 2023/24 ac yn diweddaru aelodau ar y cynnydd a wnaed i ddosbarthu mwy o gronfeydd yr Ymddiriedolaeth i ddiwallu dibenion elusennol yr Ymddiriedolaeth. Ym mis Hydref 2019 penderfynodd y Pwyllgor Gwaith ddyrannu swm untro o £55,280 i bob ysgol uwchradd, wedi’i ariannu gan Gronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 1/3 (Gyfyngedig), i dalu costau Anogwyr Dysgu. Hefyd penderfynodd y Pwyllgor Gwaith i ddyrannu swm ychwanegol o £8,000 i bob ysgol uwchradd i ddarparu grantiau i fyfyrwyr dan anfantais ariannol. Pwrpas y grantiau oedd helpu myfyrwyr i gael lleoedd mewn colegau a phrifysgolion a / neu brynu llyfrau ac offer sydd eu hangen i ddilyn cyrsiau yn ystod y flwyddyn gyntaf. Ariannwyd cyfanswm y gost o £40,000 gan Gronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 2/3 (Gyfyngedig). Mae adran 5 o'r adroddiad yn manylu ar sut y defnyddiodd ysgolion y cronfeydd hyn yn 2023/24.
Tynnodd y Cynghorydd Robin Williams sylw at y ffaith bod Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach yn dibynnu ar Ystâd Elusennol David Hughes i gynhyrchu gwarged sy'n cael ei drosglwyddo wedyn i'r Gronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach. Er bod yr enillion ar y buddsoddiadau masnachu yn dda, mae perfformiad eiddo buddsoddi'r ystâd Elusennol yn wael iawn, gan ddangos enillion negyddol yn 2022/23 a 2023/24. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod cytundebau tenantiaeth yn gyfyngedig ac wedi ein hatal rhag cynyddu rhenti'n sylweddol dros amser ynghyd â chostau cynnal a chadw cynyddol oherwydd bod cyflwr yr eiddo’n dirywio. O ganlyniad i’r enillion gwael ar eiddo, nid yw Ystâd Elusennol David Hughes wedi
llwyddo i gyfrannu at Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn yn y 2 flynedd
ddiwethaf gan nad oedd unrhyw warged. Mae hyn yn golygu nad yw'r Ymddiriedolaeth wedi gallu darparu cymorth i ddisgyblion presennol a chyn-ddisgyblion pum ysgol uwchradd y Cyngor, sef ei phrif bwrpas. Heb newid mewn strategaeth mewn perthynas ag ystâd elusennol David Hughes, mae'r sefyllfa hon yn debygol o barhau. Nodwyd yr her hon yn flaenorol ym mis Mawrth 2024 pan ddirprwywyd awdurdod i Swyddogion gan y Pwyllgor Gwaith i edrych ar opsiynau ar gyfer cynyddu incwm o'r ystâd i ddiogelu hyfywedd hirdymor Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn er budd pobl ifanc Ynys Môn. Fodd bynnag, oherwydd materion capasiti, nid oes unrhyw gynnydd wedi'i wneud i weithredu'r argymhelliad hwn. Gofynnir i'r Pwyllgor Gwaith awdurdodi comisiynu cymorth allanol i gynnal yr adolygiad angenrheidiol.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 nad yw eiddo buddsoddi Ystâd Elusennol David ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6