Mater - cyfarfodydd

Public Services Board - governance arrangements/scrutiny of delivery of the Well-being Plan

Cyfarfod: 09/04/2025 - Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio (Eitem 4)

4 Bwrdd Gwasanaethau Gwynedd ac Ynys Môn - trefniadau llywodraethiant a chraffu cynnydd ar wireddu'r Cynllun Lleisiant 2023-2028 pdf eicon PDF 608 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Penderfyniad:

Penderfynwyd derbyn trefniadau llywodraethiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoedus a nodi cynnydd a wnaed yn erbyn y Cynllun Llesiant 2023-2028 a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2023.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio Cyllid a Gwasanaethau Tai fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Roedd y Ddeddf hefyd yn sefydlu’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru, gyda chynrychiolaeth gan gyrff cyhoeddus a’r trydydd sector. Mae sefydliadau cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn wedi dod ynghyd i gydweithio fel un Bwrdd. Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cydweithio fel sefydliadau partner er mwyn sicrhau fod cynlluniau strategol yn cyd-fynd ag amcanion llesiant lleol ac yn cefnogi’r dasg o’u gwireddu. Nododd mai’r brif her i’r Bwrdd yw sefydlu ymhle y gall ychwanegu’r gwerth mwyaf a gwneud gwahaniaeth gyda’r adnoddau a’r capasiti cyfyngedig sydd ar gael. Cyhoeddwyd Cynllun Llesiant Gwynedd ac Ynys Môn 2023-2028 ym mis Mai 2023 ac roedd yn amlygu tri amcan Llesiant penodol, fel y nodir yn yr adroddiad. Mae’r Iaith Gymraeg yn flaenoriaeth barhaol i’r Bwrdd ac mae’n cael ei hyrwyddo ym mhob agwedd o waith y Bwrdd.  Ychwanegodd fod seremoni wedi’i chynnal ym mis Mawrth 2025 er mwyn i’r ddau Gyngor lofnodi’r Siarter Teithio Llesol ac roedd Mr Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, yn bresennol.   

 

Yn dilyn sylwadau a wnaed yn flaenorol gan y Pwyllgor, dywedodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn fod manylion ychwanegol wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ynglŷn â’r prosiectau sydd ar y gweill gan y Bwrdd a’r sefydliadau sy’n eu rhoi ar waith, ynghyd â’r canlyniadau a chynlluniau pellach i’w cyflawni yn y dyfodol. Mae methodoleg System Gyfan Pwysau Iach wedi ei fabwysiadu fel ffordd o weithio drwy waith y Bwrdd, a gallai ddylanwadu ar y dewis o fwydydd iach a fforddiadwy sydd ar gael a chreu cyfleoedd i bobl ymarfer a chadw’n heini. Ychwanegodd bod yr Iaith Gymraeg yn flaenoriaeth barhaol i’r Bwrdd, fel y nododd y Dirprwy Arweinydd. 

 

Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-

 

·     Gofynnwyd sut mae’r Bwrdd wedi blaenoriaethu meysydd lle gall ychwanegu’r gwerth mwyaf o ystyried yr adnoddau a’r capasiti cyfyngedig sydd ar gael iddo.  Mewn ymateb, dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio Cyllid a Gwasanaethau Tai fod y diffyg adnoddau a chapasiti yn her i bob sefydliad partner ac i’r ddau Gyngor Sir. Nododd fod y Bwrdd yn dymuno cyflawni’r meysydd blaenoriaeth a nodwyd. Dywedodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn mai hwn yw ail Gynllun Llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac mae gwersi wedi’u dysgu er mwyn caniatáu i sefydliadau partner weithio’n fwy effeithlon a rhannu adnoddau.  Nododd fod gwaith rhanbarthol ychwanegol yn cael ei wneud bellach er mwyn elwa ar yr adnoddau sydd ar gael.

·     Nodwyd bod Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru’n ymgynghori ar y Siarter Teithio Llesol ar hyn o bryd. Gofynnwyd a ddylai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus weithio’n agos â’r Bwrdd Uchelgais gan fod ganddynt fwy o adnoddau i gwblhau’r gwaith. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr, fod y Siarter Teithio Llesol wedi cael ei hystyried a’i llofnodi er  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4