Mater - cyfarfodydd

Ynys Môn Free Port - measure progress

Cyfarfod: 09/04/2025 - Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio (Eitem 5)

5 Porthladd Rhydd Ynys Môn - Diweddariad pdf eicon PDF 296 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.  

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

 

·         Cydnabod rôl y Cyngor o ran datblygu Porthladd Rhydd Ynys Môn, gan gynnwys cyflwyno’r Achosion Busnes Amlinellol a Llawn.

·         Cydnabod cadernid y trefniadau llywodraethu a throsglwyddo o’r Bwrdd Cysgodol i’r Bwrdd Llawn

·         Nodi’r camau nesaf o ran cadarnhau’r Porthladd Rhydd, gan gynnwys yr angen i gymeradwyo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru cyn y daw’r Porthladd Rhydd yn weithredol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd fod Llywodraethau’r DU a Llywodraeth Cymru wedi gwahodd bidwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru yn 2022. Ardaloedd dynodedig yw Porthladdoedd Rhydd lle mae nifer o gymhellion economaidd ar gael i ysgogi’r economi leol ac annog twf a buddsoddiad. Datblygwyd Porthladd Rhydd Ynys Môn i gyd-fynd yn llawn â gweledigaeth, amcanion a gwerthoedd Cynllun y Cyngor 2023-2028, gan ganolbwyntio’n benodol ar gydweithio, yr iaith Gymraeg, hyrwyddo’r ynys a hyrwyddo cyfleoedd fydd yn creu swyddi a thwf yn yr economi. Mae’r Porthladd Rhydd yn gyfle i ddenu buddsoddiad newydd sylweddol gan y sector preifat ac mae hyn yn hynod o bwysig o ystyried y cyd-destun, gan fod nifer sylweddol o swyddi wedi eu colli yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf, gan effeithio ar yr ynys. Dywedodd bod safleoedd dynodedig eraill ar yr Ynys a allai fanteisio ar statws y Porthladd Rhydd.

 

Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-

 

·      Gofynnwyd pa gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant allai ddeillio o’r Porthladd Rhydd a holwyd a fyddai isadeiledd yr Ynys yn gallu cynnal mewnlifiad o weithwyr? Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd fod rhaid i’r Awdurdod fod yn realistig ac ni ddylid codi disgwyliadau ynglŷn â chyfleoedd cyflogaeth a allai ddeillio o’r Porthladd Rhydd ar gychwyn y broses; rhagwelir y bydd y prosiect Porthladd Rhydd yn creu rhwng 3,000 a 4,000 mewn blynyddoedd i ddod. Nododd y byddai’r cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant yn ddibynnol ar y cwmnïau sy’n dewis lleoli eu busnesau yn yr ardaloedd dynodedig ar yr Ynys. Mae Grŵp Llandrillo Menai, M-Sparc a Phrifysgol Bangor, y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a’r Bwrdd Uchelgais yn rhan o drafodaethau ynglŷn â photensial y Porthladd Rhydd a byddant yn barod i ddarparu cyfleoedd hyfforddi pan fydd gwybodaeth ar gael ynghylch pa fusnesau fydd yn sefydlu yn yr ardaloedd dynodedig. 

·      Gofynnwyd a fyddai’r gyllideb flynyddol o £600k yn ddigon i gwrdd ag anghenion gweithredol Porthladd Rhydd Ynys Môn. Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd y credir bod y gyllideb flynyddol o £600k yn ddigonol gan fod y Porthladd Rhydd yn gymharol fychan o gymharu â Phorthladdoedd Rhydd eraill, a bydd cwmnïau sy’n sefydlu yn yr ardaloedd dynodedig yn cyfrannu arian. 

·      Nodwyd y gallai denu mewnlifiad o weithwyr i ardal wledig Gymraeg ei hiaith gael effaith ar yr iaith Gymraeg. Dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd y byddai sicrhau cyfleoedd cyflogaeth yn sicrhau dyfodol yr Ynys gan y byddai darparu gwaith i bobl ifanc yn gwarchod yr iaith Gymraeg.  Bydd plant teuluoedd sy’n adleoli i’r Ynys yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion lleol a bydd yn diogelu’r iaith Gymraeg mewn cymunedau lleol. Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mai un o dri amcan strategol y prosiect Porthladd Rhydd yw’r ymrwymiad i’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig ac mae’r ddwy Lywodraeth, yn ogystal â’r sefydliadau partner, wedi cydnabod yr iaith  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5