5 Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith
PDF 226 KB
Cyflwyno
Adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen
Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i
diweddaru am y cyfnod Gorffennaf 2025
i Chwefror 2026 gyda’r newidiadau
a amlinellwyd yn y cyfarfod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd, i’w gadarnhau, adroddiad y Pennaeth
Democratiaeth yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar
gyfer y cyfnod rhwng Gorffennaf 2025 a Chwefror 2026.
Cyflwynodd y Pennaeth Democratiaeth ddiweddariad
i’r Pwyllgor Gwaith ar y newidiadau yn y Flaen Rhaglen Waith,
fel a ganlyn -
- Mae adroddiadau
monitro’r Gyllideb Gyfalaf a Chyllideb y CRT ar gyfer
Chwarter 4 2025/26 wedi’u symud o gyfarfod mis Mehefin i
gyfarfod mis Gorffennaf 2025.
- Mae Adroddiad
Rheoli’r Trysorlys – Adolygiad blynyddol 2024/25 ac
adroddiad ar Gyfrifon drafft 2024/25 ac Arian Wrth Gefn ar ddiwedd
Mawrth 2025 hefyd wedi eu hychwanegu at gyfarfod mis Gorffennaf.
Mae’r adroddiad ar yr Asesiad Panel Perfformiad yn eitem
newydd ar gyfer cyfarfod mis Gorffennaf nad oedd wedi ei chynnwys
ar y Rhaglen Waith a gyhoeddwyd.
- Bydd adroddiad ar
ganlyniadau’r ymgynghoriad ar y cynnig i adleoli dysgwyr
Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad Ysgol newydd ar gyfer dysgwyr
11-18 oed, ynghyd â’r dogfennau Moderneiddio Cymunedau
Dysgu, yn cael eu symud o fis Tachwedd i’r cyfarfod ym mis
Hydref 2025.
- Mae adroddiadau
monitro’r gyllideb a’r Datganiad Polisi Trwyddedu
Alcohol ac Adloniant Rheoledig wedi’u hychwanegu ar gyfer y
cyfarfod ym mis Chwefror 2026.
Penderfynwyd
cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i
diweddaru am y cyfnod Gorffennaf 2025 i Chwefror 2026 gyda’r
newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.