6 Monitro’r Cerdyn Sgorio - Chwarter 4, 2024/25
PDF 489 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cytuno i’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 4 2024/25 a nodi’r meysydd o welliannau ynghyd â’r meysydd mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu harchwilio er mwyn rheoli a sicrhau gwelliant pellach yn y dyfodol. Roedd y rhain mewn perthynas ag Addysg (Môn Actif), Tai (Darparu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl, a Thai Gwag), Economi (Contractau Angori Cwsmeriaid), Newid Hinsawdd (Ailgylchu Gwastraff Domestig) a Iechyd Cyffredinol y Cyngor (Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth).
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid, yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 4 2024/25, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.
Cyflwynwyd yr adroddiad cerdyn sgorio olaf ar gyfer 2024/25 gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, a nododd bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi craffu’n fanwl ar yr adroddiad yn ei gyfarfod yr wythnos gynt.
Cyfeiriodd at feysydd y mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn mynd ati i’w monitro er mwyn sicrhau gwelliant yn y dyfodol, fel y nodir yn adran 2 yn yr adroddiad. Maent yn cynnwys nifer y plant sy’n cael gwersi nofio drwy gydol y flwyddyn (Môn Actif); darparu grantiau cyfleusterau i’r anabl, ail-osod unedau tai sy’n rhai y mae modd eu gosod, nifer y cytundebau angori blynyddol, cyfraddau ailgylchu gwastraff domestig a cheisiadau rhyddid gwybodaeth a dderbyniodd ymateb o fewn yr amserlen. Nodwyd bod gwelliant amlwg yn chwarter 4 mewn perthynas â’r pwynt olaf, a dim ond 14 cais rhyddid gwybodaeth, o gyfanswm o 260, oedd wedi derbyn ymateb hwyr.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Carwyn Jones hefyd at berfformiad cryf mewn sawl maes, gan gynnwys cefnogaeth i fusnesau ddatblygu’r Gymraeg trwy’r rhaglen ARFOR, cynnydd o 50,000 yn nifer yr ymweliadau â Chanolfannau Hamdden Môn Actif ar gyfer gweithgareddau corfforol, gostyngiad yn nifer y disgyblion blwyddyn 11 sy’n gadael yr ysgol heb fynd ymlaen i waith, addysg neu hyfforddiant (NEET), canran uchel o denantiaid sy’n fodlon â gwaith trwsio ymatebol, ceisiadau cynllunio sy’n cael eu penderfynu mewn pryd a chyfraddau cadarnhaol ar gyfer cyflwr ffyrdd dosbarth A, B ac C.
I gloi, dywedodd bod perfformiad wedi bod yn gyson trwy’r flwyddyn a phwysleisiodd werth y cerdyn sgorio wrth fonitro perfformiad.
Croesawyd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, i’w gyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor Gwaith a gofynnwyd iddo gyflwyno adborth o gyfarfod y pwyllgor a gynhaliwyd ar 17 Mehefin. Er bod y pwyllgor wedi nodi bod 82.5% o’r dangosyddion perfformiad allweddol sy’n cael eu monitro wedi cyflawni eu targedau yn ystod y pedwerydd chwarter, gofynnwyd am sicrwydd ynglŷn â’r dangosyddion sy’n tanberfformio a gallu’r Cyngor i wella’n barhaus. Roedd y materion a godwyd yn ystod y drafodaeth yn cynnwys yr amser a gymerir i ailosod unedau tai, disgyblion blwyddyn 11 sydd ddim yn mynd ymlaen i addysg, gwaith neu hyfforddiant, allyriadau carbon, gwahardd disgyblion a’r amser a gymerir i ymateb i ymholiadau diogelu oedolion. Ar ôl adolygu’r cerdyn sgorio corfforaethol ar gyfer Chwarter 4 ac yn dilyn trafodaeth lawn, penderfynodd y pwyllgor nodi’r adroddiad, gan gynnwys y meysydd y mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu harchwilio er mwyn sicrhau gwelliannau, ac argymell y cerdyn sgorio a’r mesurau lliniaru i’r Pwyllgor Gwaith. Cytunwyd hefyd y dylid cyflwyno’r dadansoddiad diwedd cyfnod drafft o’r “Cynllun Tuag at Sero Net 2022-2025” i’r Pwyllgor Sgriwtini yn yr hydref ac y dylid gofyn i’r Pennaeth Gwasanaethau Tai a’r Aelod Portffolio Cyllid a Thai holi awdurdodau lleol eraill, er enghraifft, Harlow, Rotherham a North Ayrshire, am arferion gorau ar gyfer lleihau’r amser a gymerir i ailosod ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6