7 Dogfen Gyflawni Blynyddol 2025/26
PDF 619 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd mabwysiadu’r Dogfen Gyflawni Blynyddol ar gyfer ei chyflawni yn ystod 2025/26.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2025/26, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.
Cyflwynwyd y ddogfen gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer ac roedd yn amlinellu’r gweithredoedd sydd ar y gweill yn 2025/26 i gyflawni’r amcanion strategol yng Nghynllun y Cyngor 2023-2028. Cynlluniwyd y gweithredoedd lefel uchel hyn er mwyn sicrhau fod y Cyngor yn cyflawni ei ymrwymiadau o dan bob un o amcanion strategol Cynllun y Cyngor erbyn 2028. Y bwriad yw bod y gweithredoedd yn fesuradwy ac maent yn cynnwys targedau a cherrig milltir eglur lle bynnag y bo hynny’n bosib, gan olygu bod modd iddynt gael eu monitro’n effeithiol trwy gydol y flwyddyn. Bydd cynnydd yn cael ei adolygu’n chwarterol gan y Bwrdd Rhaglen Gwella a Moderneiddio a chaiff ei adlewyrchu yn yr Adroddiad Blynyddol ar Berfformiad a Llesiant.
Rhannodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, safbwyntiau Sgriwtini yn dilyn y drafodaeth yng nghyfarfod y pwyllgor hwnnw ar 17 Mehefin. Roedd y pwyllgor yn cydnabod uchelgais y ddogfen a gofynnodd am sicrwydd y byddai’n bosib ei chyflawni, cadernid y fframwaith rheoli perfformiad sy’n cefnogi’r cynllun, a sut fyddai cynnydd yn cael ei olrhain a’i fonitro. Roedd yr aelodau wedi gofyn am ddiweddariad ar sawl maes, gan gynnwys y system ddata a gwybodaeth arfaethedig ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol, y datblygiad gofal ychwanegol arfaethedig ym Mhorthaethwy, rheoli llifogydd a chefnogaeth i gystadleuwyr di-Gymraeg yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn yn 2026. Ar ôl ystyried y ddogfen a derbyn sicrwydd ynglŷn â’r materion a godwyd, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol argymell y ddogfen i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer ei chymeradwyo.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor Sgriwtini am eu hadborth a phwysleisiodd fod y Ddogfen Gyflawni’n nodi dyheadau’r Cyngor ar gyfer 2025/26 a’i bod yn cyfrannu at amcanion ehangach Cynllun y Cyngor. Mae’n ddogfen lefel uchel ac mae’n cael ei chefnogi gan strategaethau gwasanaeth manwl a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith.
Penderfynwyd mabwysiadu’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer ei chyflawni yn 2025/26.