8 Monitro'r Gyllideb Refeniw – Alldro 2024/25
PDF 762 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd -
· Nodi’r sefyllfa a nodir yn Atodiadau A, B a C yr adroddiad mewn perthynas ag alldro ariannol yr Awdurdod ar gyfer 2024/25.
· Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2024/25 y manylir arnynt yn Atodiad CH.
· Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2024/25 yn Atodiadau D a DD.
· Nodi bod amcangyfrif o falansau cyffredinol y Cyngor ar 31 Mawrth 2025 yn £18.166m.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor hyd at ddiwedd Chwarter 4, 31 Mawrth 2025, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai, yr adroddiad ac mae’n nodi bod y Cyngor yn rhagweld tanwariant o £3.873m ar gyfer 2024/25, yn cynnwys Cyllid Corfforaethol a’r gronfa Treth Gyngor, ac mae hynny gyfystyr â 2.15% o gyllideb net y Cyngor. Dywedodd bod yr alldro drafft gryn dipyn yn well na’r rhagolwg yn Chwarter 3 ac mae’r dadansoddiad o’r amrywiannau yn Nhabl 5 yn yr adroddiad yn dangos symudiad cadarnhaol o £3.11m. Mae’r ffactorau sydd wedi cyfrannu’n bennaf at wella’r sefyllfa yn cynnwys tanwariant o £936k yn y Gwasanaethau Oedolion, yn bennaf o ganlyniad i dderbyn incwm grantiau ychwanegol, swyddi gweigion, arbedion yn gysylltiedig â chontract cyfleustodau newydd a chynnydd mewn incwm ffioedd a thaliadau, yn enwedig yn y gwasanaethau Priffyrdd, Cynllunio ac Oedolion.
Nododd y Cynghorydd Robin Williams fod newidiadau yn y rheolau cymhwyso ar gyfer trethi busnes ar lety hunanarlwyo yn golygu bod nifer o eiddo wedi trosglwyddo’n ôl i’r gofrestr Treth Gyngor, gan olygu fod mwy o eiddo’n gorfod talu’r premiwm ar ail gartrefi. Mae’r Cyngor yn rhagweld y gallai nifer o apeliadau yn erbyn y penderfyniadau hyn fod yn llwyddiannus, a gallai eiddo gwrdd â’r trothwyon newydd ar ôl cael eu hail-asesu, gan olygu eu bod yn symud yn ôl i’r gofrestr trethi busnes. Oherwydd hyn, mae’r Cyngor wedi neilltuo £900k o arian ychwanegol mewn cronfa glustnodedig er mwyn gwneud ad-daliadau yn 2025/26 os bydd angen.
Mae’r alldro drafft a’r tanwariant a nodwyd, a’i effaith ar falansau cyffredinol y Cyngor, yn cryfhau sefyllfa ariannol y Cyngor a bydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddo wrth gynllunio cyllideb refeniw 2026/27. Cyflwynir adroddiad pellach i’r Pwyllgor Gwaith ar ôl cwblhau’r Datganiad o Gyfrifon drafft ar gyfer 2024/25.
Nododd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod buddsoddiadau diweddar yn adeiladau’r Cyngor oedd â’r nod o leihau allyriadau carbon, wedi arwain at ostyngiad sylweddol mewn costau ynni yn ystod Chwarter 4.
O ran y tanwariant yng nghyllideb gyffredinol y Cyngor ar gyfer 2024/25, esboniodd bod nifer o ffactorau unwaith ac am byth wedi cyfrannu at y tanwariant, megis grantiau ychwanegol nad yw’r Cyngor yn debygol o’u derbyn eto, swyddi gweigion dros dro a chynnydd mewn incwm oherwydd cynnydd yn y galw a allai ostwng eto yn 2026/27. Pwysleisiodd nad yw’r datblygiadau yn 2024/25 wedi newid fawr ar sefyllfa ariannol sylfaenol y Cyngor, na’r heriau y mae’n eu hwynebu. Bydd yr alldro a ragwelir ar gyfer cyllideb 2024/25 yn atgyfnerthu balansau cyffredinol y Cyngor, gan gynnig mwy o ddewisiadau wrth gynllunio cyllideb 2026/27, ond nid yw’r datrys y pwysau sylfaenol, yn arbennig ym maes gofal cymdeithasol i Oedolion a Phlant. Rhagwelir gorwariant o £1.948m yn y Gwasanaethau Plant yn 2024/25, er bod y Cyngor wedi buddsoddi’n sylweddol wrth bennu’r gyllideb. Mae arian ychwanegol wedi’i gynnwys ar gyfer y gwasanaethau hyn yn y gyllideb ar gyfer 2025/26, ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8