Mater - cyfarfodydd

Determinations as to Sanctions and Recommendations

Cyfarfod: 16/05/2025 - Pwyllgor Safonau (Eitem 9)

Penderfyniad ynglyn â Chosb ac Argymhellion

Yn unol â pharagraff 10.8(b) o’r Weithdrefn ar gyfer Gwrandawiadau Safonau Lleol.

Penderfyniad:

Gwrandawiad Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Ynys Môn i honiadau ynglŷn ag ymddygiad y Cynghorydd Ieuan Williams o Gyngor Sir Ynys Môn

 

Cyfeirnod Achos Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - 202302251.

 

Penderfyniad Cyngor Sir Ynys Môn gyda rhesymau ysgrifenedig

 

1. Cyflwyniad

 

1.1 Cynhaliwyd Gwrandawiad o Bwyllgor Safonau Cyngor Sir Ynys Môn (“y Pwyllgor Safonau”) ar 16/05/2025 er mwyn ystyried honiadau bod y Cynghorydd Ieuan Williams o Gyngor Sir Ynys Môn wedi torri’r Cod Ymddygiad i Aelodau, a rhoi cyfle i’r Cynghorydd Williams (“yr Aelod”) gyflwyno sylwadau mewn perthynas â’r honiadau hynny.

 

1.2 Cyfeiriodd y Cynghorydd Ieuan Williams (yr “Aelod”) ei hun at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“OGCC”) ar ôl dweud “bod angen saethu pob Tory” mewn cyfarfod o’r Bwrdd Rhaglen Datblygiadau Cyfredol ar 12/6/2023.

 

1.3 Trefnodd OGCC i’r honiadau gael eu hymchwilio, yn unol â’i phwerau o dan adran 69 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, a lluniodd Adroddiad ar yr ymchwiliad. Daeth OGCC i’r casgliad fod tystiolaeth wedi’i ganfod oedd yn awgrymu fod paragraffau 4(b) a 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad i Aelodau Cyngor Sir Ynys Môn wedi cael eu torri.  Cyfeiriodd OGCC ei hadroddiad at Swyddog Monitro Cyngor Sir Ynys Môn (“y Cyngor”) gyda chyfarwyddyd y dylid cyfeirio’r mater at y Pwyllgor Safonau.

 

1.4 Cynhaliwyd cyfarfod o’r Pwyllgor Safonau ar 26/02/2025 er mwyn dod i benderfyniad cychwynnol ynglŷn â’r gŵyn yr oedd OGCC wedi’i chyfeirio at y Pwyllgor. Yn unol â Gweithdrefn y Cyngor ar gyfer Gwrandawiadau Safonau Lleol (y “Weithdrefn”), penderfynodd y Pwyllgor Safonau, yn ystod y cam penderfyniad cychwynnol:

 

  • Y dylid cynnal gwrandawiad lleol o’r Pwyllgor ynglŷn â’r mater fel y gall yr Aelod perthnasol wneud sylwadau, ar lafar ac yn ysgrifenedig, mewn perthynas â chanfyddiadau’r ymchwiliad ac unrhyw honiad fod yr Aelod wedi methu â, neu y gallai fod wedi methu â, chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad.

 

  • Bod y Swyddog Monitro yn cynnal y broses Cyn-Wrandawiad yn unol â’r Weithdrefn.

 

1.5 Trefnwyd i gynnal Gwrandawiad y Pwyllgor Safonau ar 16/05/2025. Cynhaliwyd y Gwrandawiad yn unol â’r Weithdrefn. Roedd rhaid i’r Gwrandawiad hwn benderfynu, yn ôl pwysau tebygolrwydd, p’un a oedd yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r paragraffau perthnasol yn y Cod Ymddygiad ai peidio. Pe byddai’r Gwrandawiad yn dod i’r casgliad bod y Cod Ymddygiad wedi cael ei dorri, roedd rhaid iddo ddod i benderfyniad ynglŷn ag unrhyw gosb a / neu argymhelliad i’r Cyngor.

 

1.6 Roedd y Cynghorydd Williams yn bresennol yn y Gwrandawiad ar 16/05/2025. Nid oedd gan y Cynghorydd Williams gynrychiolaeth gyfreithiol.

 

1.7 Roedd Ms Llinos Lake a Ms Annie Ginwalla o Swyddfa OGCC yn bresennol yn y Gwrandawiad ar 16/05/2025 a bu iddynt gyflwyno sylwadau ar ran OGCC.

 

1.8 Ni ofynnwyd i unrhyw dystion fynychu’r Gwrandawiad.

 

1.9 Cynhaliwyd y Gwrandawiad yn gyhoeddus ond cafodd y wasg a’r cyhoedd eu cau allan am gyfnod gan fod y Cynghorydd Williams yn datgelu gwybodaeth bersonol a sensitif yn ei ddatganiad ynglŷn â’r effaith bersonol arno.

 

2. Sefydlu’r Ffeithiau

 

2.1 Roedd y Cynghorydd Williams yn derbyn Adroddiad y Swyddog Ymchwilio felly  ...  view the full Penderfyniad text for item 9

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd bod y Pwyllgor Safonau wedi dod i benderfyniad ynglyn â phob un o’r pwyntiau yr oedd gofyn iddo ddod i benderfyniad yn eu cylch.  Cadarnhaodd bod y Pwyllgor Safonau wedi ystyried Canllaw Panel Dyfarnu Cymru ar  Gosbau, a’i fod wedi sicrhau bod ei benderfyniad wedi ystyried yr egwyddorion isod:

 

  Tegwch

  Budd y cyhoedd

  Cymesuredd

  Cysondeb

  Cydraddoldeb a didueddrwydd

  Hawliau Dynol

 

Roedd y Pwyllgor Safonau hefyd yn ystyriol o bwrpas y cosbau wrth ddod i benderfyniad ynglŷn â’r mater hwn.  Fel y crynhoir yng Nghanllaw Panel Dyfarnu Cymru ar Gosbau pwrpas y gosb a roddir yw:

 

  darparu ymateb disgyblaethol i achos lle mae aelod unigol wedi torri’r Cod;

  gwneud cofnod cyhoeddus o’r camymddwyn a’r gosb briodol;

  sicrhau nad yw’r unigolyn na neb arall yn camymddwyn yn y dyfodol;

  hybu diwylliant o gydymffurfio ar draws yr awdurdodau perthnasol;

  meithrin hyder y cyhoedd mewn democratiaeth leol.

 

Hefyd, roedd y Pwyllgor Safonau wedi ystyried yr isod wrth ddod i benderfyniad ynglŷn â chosb: -

 

  asesu difrifoldeb y tor-amod ac unrhyw ganlyniadau i unigolion a/neu’r

   cyngor;

  nodi’r math cyffredinol o gosb y mae’r Tribiwnlys yn credu ei bod yn fwyaf

   tebygol o fod yn briodol o ystyried y tor-amod;

  ystyried unrhyw amgylchiadau lliniarol neu waethygol perthnasol a sut y

   gallai’r rhain effeithio ar lefel y gosb sy’n cael ei hystyried; 

  ystyried unrhyw addasiad pellach sydd ei angen er mwyn sicrhau bod y

   gosb yn cael effaith briodol, o ran cyflawni dibenion y gosb; 

 

Yn unol â budd y cyhoedd, ystyriodd y Pwyllgor Safonau gosbau a roddwyd gan Bwyllgorau Safonau eraill, ar gyfer achosion tebyg o dorri’r cod.  Cadarnhaodd y Pwyllgor Safonau ei fod wedi myfyrio ar faterion blaenorol y mae OGCC wedi cyhoeddi adroddiadau arnynt ac sydd ar gael ar ei gwefan wrth benderfynu ar y gosb.

 

Ar ôl ystyried manylion yr achos fel y nodwyd yn Adroddiad y Swyddog Ymchwilio, yng nghyd-destun yr egwyddorion sydd wedi eu disgrifio uchod, roedd penderfyniad y Pwyllgor fel a ganlyn: -

 

 

  Dylid rhoi cosb;

  Y byddai’r Aelod yn cael cerydd.

 

    Gwnaed yr argymhellion canlynol i’r Cyngor: -

 

    Yn gyntaf, bod Cadeirydd y Pwyllgor Safonau’n trafod cymorth ffurfiol

       pellach gyda’r Cynghorydd Williams yn gysylltiedig â rheoli ei emosiynau

       a’i rôl wleidyddol yn gyhoeddus.

    Yn ail, bod y Cyngor yn sicrhau bod pob aelod yn glir ynglyn â’r Cod

       Ymddygiad, a’i fod yn berthnasol i gyfarfodydd preifat yn ogystal â

       chyfarfodydd cyhoeddus. 

 

Eglurwyd y byddai’r rhesymau y tu ôl i’r penderfyniadau uchod yn cael eu hamlinellu yn y penderfyniad ffurfiol a fyddai’n cael ei anfon at y Cynghorydd Williams maes o law, ac y byddai’n cael ei gyhoeddi gan y Pwyllgor yn dilyn y broses hon.  Fodd bynnag, gellir crynhoi’r prif resymau y tu ôl i’r penderfyniadau hyn fel a ganlyn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9