7.1 HHP/2024/169 - The Old Crown, Moelfre
7.2 HHP/2025/7 - 39 Parc Tyddyn Bach, Caergybi
7.3 FPL/2024/360 - Ty Coch Farm, Rhostrehwfa
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
7.1 HHP/2024/169 – Cais llawn ar gyfer codi anecs atodol yn The Old Crown, Moelfre.
7.2 HHP/2025/7 – Cais ôl-weithredol ar gyfer addasiadau ac estyniadau ynghyd â chodi balconi yn 39 Parc Tyddyn Bach, Caergybi.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio o fewn yr adroddiad.
7.3 FPL/2024/360 - Cais llawn i ddymchwel yr annedd presennol a chodi annedd newydd yn ei le ynghyd ag addasu’r fynedfa bresennol, gosod cyfleuster trin carthion a gwaith cysylltiedig yn Fferm Tŷ Coch, Rhostrehwfa.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Cofnodion:
7.1 HHP/2024/169 – Cais llawn ar gyfer codi anecs atodol yn The Old Crown, Moelfre
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol, gan ei bod o'r farn y byddai'r datblygiad yn cael effaith weledol negyddol. Yn ei gyfarfod ar 7 Mai, 2025 penderfynodd y pwyllgor gynnal ymweliad safle, ac fe’i cynhaliwyd ar 21 Mai, 2025.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr annedd bresennol yn eiddo teras deulawr wedi'i leoli o fewn ffin datblygu Moelfre a’i fod hefyd wedi'i leoli o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae'r cynnig yn cynnwys codi anecs atodol y tu ôl i’r annedd bresennol. Fel y gwelwyd yn ystod yr ymweliad â'r safle, mae gan y safle lefelau topograffig gwahanol, felly mae'r safle ar raddiant i fyny o'r brif ffordd, a bydd yr anecs wedi'i leoli mewn safle uwch ger Lôn Tŷ Powdwr sy'n edrych dros arfordir Moelfre. Mae yna eisoes ganiatâd i godi tŷ ar yr un ôl troed â'r anecs
arfaethedig, sydd wedi ei warchod trwy gais cynllunio defnydd cyfreithlon yn 2023. Bydd yr anecs yn llai o ran maint na'r cais a gymeradwywyd yn flaenorol. Mae'r datblygiad arfaethedig yn dangos dyluniad o ansawdd uchel ac mae’n ategu ac yn gwella cymeriad ac edrychiad y safle. Nid yw'n cael ei ystyried y bydd y cynnig yn niweidio nodweddion arbennig y dirwedd, yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, nac unrhyw eiddo cyfagos. Mae'r caniatâd cynllunio a roddwyd eisoes ar gyfer annedd yn cael mwy o effaith weledol ar y dirwedd o'i gymharu â'r anecs arfaethedig. Mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi gofyn am i drefniadau parcio gael eu sicrhau oherwydd bod bwriad cael tair ystafell wely yn yr anecs. Yn sgil yr ystafelloedd gwely hyn, byddai gofyn creu tri llecyn parcio arall, yn ychwanegol at y tri presennol sydd ar gyfer y tŷ presennol a'r llety gwyliau sy'n gysylltiedig â'r safle. Er gallu dangos bod digon o le i barcio yng nghwrtil y safle, gofynnwyd am ragor o fanylion ynglŷn â defnyddioldeb y llecynnau. Cyflwynwyd dadansoddiad o symudiadau troi ceir ar y safle er mwyn lleddfu pryderon yr Awdurdod Priffyrdd, ac roedd y wybodaeth a gyflwynwyd yn y dadansoddiad yn dderbyniol.
Mae Dŵr Cymru wedi gofyn am amod yn datgan na chaniateir i unrhyw ddŵr wyneb ddraenio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol i’r system garthffosiaeth gyhoeddus. Yn ogystal â'r amod hwn, bydd amod arall yn cael ei weithredu fel rhan o'r penderfyniad sy'n nodi cyn dechrau'r gwaith ar y safle, bydd manylion llawn am sut y bydd dŵr wyneb yn cael ei ollwng yn y safle yn cael eu cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'u cymeradwyo ganddo. Nododd ymhellach mai cyfrifoldeb SAB yw materion dŵr wyneb fel arfer, fodd bynnag, gan fod Dŵr Cymru wedi gofyn yn benodol nad yw'r dŵr wyneb yn cysylltu â'r brif garthffos, mae amod wedi’i osod cyn y gellir cymeradwyo'r cais i sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei chyflwyno cyn i unrhyw waith ddechrau ar y safle. Er ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7