Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 04/06/2025 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1 VAR/2025/18 – Uned 2a Gwasanaethau Herron, Glanhwfa Road, Llangefni

VAR/2025/18

 

12.2 VAR/2024/35 – Y Tithe Barn, Llangristiolus

VAR/2024/35

 

12.3 FPL/2023/81 – Shire Hall, Ffordd Glanhwfa, Llangefni

FPL/2023/181

 

12.4 FPL/2025/84 – Adeilad Terfynell Morol, Porth Amlwch, Amlwch

FPL/2025/84

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1 VAR/2025/18 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (gwerthu nwyddau difwyd yn unig) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2023/18 (Cais ôl-weithredol ar gyfer isrannu uned manwerthu sengl yn 2 uned manwerthu ar wahân) er mwyn caniatáu gwerthu bwyd yn Uned 2a, Herron Services, Ffordd Glanhwfa, Llangefni.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan yr ystyriwyd fod y cais yn groes i bolisïau cynllunio MAN 3 a MAN 7.

 

(Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad, bydd y cais yn cael ei ohirio i’r cyfarfod nesaf yn awtomatig er mwyn caniatáu i Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.)

 

12.2 VAR/2024/35 –  Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (02) caniatâd cynllunio cyfeirnod FPL/2022/134 (Cais llawn i drosi adeilad allanol yn llety gwyliau 2 ystafell wely yn) er mwyn diwygio'r dyluniad yn The Tithe Barn, Llangristiolus.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio o fewn yr adroddiad.

 

12.3  FPL/2023/181 – Cais llawn ar gyfer codi 6 uned preswyl ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Neuadd y Sir, Lôn Glanhwfa, Llangefni.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais yn unol â chais yr ymgeisydd er mwyn caniatáu mwy o amser i sicrhau cynnydd gyda’r cytundeb cyfreithiol A106.

 

12.4 FPL/2025/84 –  Cais i wneud gwaith adnewyddu ac addasu, ynghyd â gwaith tirweddu cysylltiedig, yn yr hen Derfynfa Forol, Porth Amlwch.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio o fewn yr adroddiad.

Cofnodion:

12.1  VAR/2025/18 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (gwerthu nwyddau difwyd yn unig) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2023/18 (Cais ôl-weithredol ar gyfer isrannu uned manwerthu sengl yn 2 uned manwerthu ar wahân) er mwyn caniatáu gwerthu bwyd yn Uned 2a, Herron Services, Ffordd Glanhwfa, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Amod (02) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2023/18 (amod 13) yn y caniatâd gwreiddiol cyfeirnod 34C72Q/ECON) yn nodi ‘Bydd yr unedau a ganiateir yma yn cael eu defnyddio i werthu nwyddau nad ydynt yn fwyd yn unig ac nid ar gyfer unrhyw ddefnydd arall a nodir ar gyfer unedau Dosbarth Defnydd A1’.  O edrych ar ganiatâd cynllunio 34C72Q/ECON gwelir bod y cais gwreiddiol yn gysylltiedig â’r unedau manwerthu yn ymwneud yn benodol â gwerthu nwyddau ‘difwyd’, ac mae’n debyg bod yr amod sy’n cyfyngu’r defnydd wedi’i roi yn seiliedig ar ofynion yr ymgeisydd gan nad yw adroddiad y swyddog yn rhoi unrhyw gyfiawnhad cynllunio dros gyfyngu’r defnydd i werthu nwyddau difwyd yn unig.  O ystyried y ffaith nad oes unrhyw newid sylweddol mewn defnydd yn cael ei gynnig ystyrir ei bod yn dderbyniol diwygio amod (2) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2023/18 i ganiatáu gwerthu bwyd yn Uned 2a.  Mae Garej Herron wrth ymyl y cais arfaethedig yn gwerthu bwyd, ac ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau ynglŷn â'r cynnig ac ymgynghorwyd â'r Awdurdod Priffyrdd ac nid ydynt wedi lleisio unrhyw wrthwynebiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Bebb, Aelod Lleol fod sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol a'r Cyngor Tref yn awgrymu bod gormod o lefydd bwyd cyflym a siopau trin gwallt yn Llangefni.  Dywedodd fod problem eisoes gyda sbwriel o'r lle bwyd cyflym Subway yng Ngarej Herron a byddai cymeradwyo'r cais hwn yn cynyddu'r problemau sbwriel. At hyn, dywedodd  fod llawer iawn o draffig yn mynd i mewn i garej Herron eisoes a byddai'r cais hwn yn cynyddu traffig ar Ffordd Glanhwfa.  Cynigiodd y Cynghorydd Bebb eu bod yn gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddogion gan ei fod yn groes i amodau cynllunio MAN 3 a MAN 7.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad yw hwn yn gais newid defnydd ac mae'n dal i fod yn ddiffiniad Dosbarth A1.  Roedd o'r farn bod digon o le parcio ar gael o flaen yr Unedau ar y safle a'i fod o fewn ffin datblygu Llangefni ac o fewn pellter cerdded o ganol y dref.  Ar ben hyn, dywedodd nad oedd o'r farn y bydd cynnydd mewn traffig sy'n cyfiawnhau gwrthod y cais ac nid oedd o'r farn bod y cynnig yn groes i amodau cynllunio MAN 3 a MAN 7. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts fod sbwriel tecawê/bwyd cyflym yn cael ei daflu i'r briffordd a'r tu allan i'r adeiladau hyn. Holodd a fyddai modd gosod amod ar lefydd bwyd cyflym i sicrhau eu bod yn cyfrannu at glirio'r sbwriel gan fod enw'r llefydd bwyd cyflym ar y sbwriel. 

 

Mewn ymateb,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12