6 Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio
PDF 891 KB
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
6.1 FPL/2023/181 – Cais llawn ar gyfer codi 6 uned preswyl ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Neuadd y Sir, Lôn Glanhwfa, Llangefni.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais yn unol â chais yr ymgeisydd er mwyn caniatáu mwy o amser i sicrhau cynnydd gyda’r cytundeb cyfreithiol Amod 106.
Cofnodion:
6.1 FPL/2023/181 – Cais llawn ar gyfer codi 6 uned preswyl ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Neuadd y Sir, Lôn Glanhwfa, Llangefni
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd wedi methu a chwblhau ac arwyddo cytundeb cyfreithiol A106. Cymeradwyodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion y cais yn ei gyfarfod ar 9 Gorffennaf 2024. Yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Mehefin, 2025, gofynnodd yr ymgeisydd am fwy o amser i gaffael arian er mwyn drafftio’r cytundeb A106 a phenderfynodd y Pwyllgor ohirio’r cais am un mis.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod trafodaethau’n parhau mewn perthynas â’r cais, a chynigiwyd gohirio’r cais am un mis. Mae’r datblygwr yn ffyddiog y gall gael cyllid gyda phartner i ddatblygu’r safle.
Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb fod y cais yn cael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais yn unol â chais yr ymgeisydd er mwyn caniatáu mwy o amser i sicrhau cynnydd gyda’r cytundeb cyfreithiol A106.