Mater - cyfarfodydd

Applications that will be Deferred

Cyfarfod: 02/07/2025 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 6)

6 Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 891 KB

6.1 - FPL/2023/181 – Neuadd y Sir, Lôn Glanhwfa, Llangefni

FPL/2023/181

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 6.1 FPL/2023/181 – Cais llawn ar gyfer codi 6 uned preswyl ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Neuadd y Sir, Lôn Glanhwfa, Llangefni.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais yn unol â chais yr ymgeisydd er mwyn caniatáu mwy o amser i sicrhau cynnydd gyda’r cytundeb cyfreithiol Amod 106.

Cofnodion:

6.1           FPL/2023/181 – Cais llawn ar gyfer codi 6 uned preswyl ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Neuadd y Sir, Lôn Glanhwfa, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd wedi methu a chwblhau ac arwyddo cytundeb cyfreithiol A106.  Cymeradwyodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion y cais yn ei gyfarfod ar 9 Gorffennaf 2024. Yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Mehefin, 2025, gofynnodd yr ymgeisydd am fwy o amser i gaffael arian er mwyn drafftio’r cytundeb A106 a phenderfynodd y Pwyllgor ohirio’r cais am un mis. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod trafodaethau’n parhau mewn perthynas â’r cais, a chynigiwyd gohirio’r cais am un mis. Mae’r datblygwr yn ffyddiog y gall gael cyllid gyda phartner i ddatblygu’r safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb fod y cais yn cael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais yn unol â chais yr ymgeisydd er mwyn caniatáu mwy o amser i sicrhau cynnydd gyda’r cytundeb cyfreithiol A106.