Mater - cyfarfodydd

Development Proposals Submitted by Councillors and Officers

Cyfarfod: 02/07/2025 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 11)

11 Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 758 KB

11.1 – HHP/2025/91 - 2 Bro Mynydd, Bryngwran

HHP/2025/91

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 11.1 HHP/2025/91 – Cais llawn ar gyfer codi ffens yn 2 Bro Mynydd, Bryngwran

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio o fewn yr adroddiad.

Cofnodion:

11.1       HHP/2025/91 – Cais llawn ar gyfer codi ffens yn 2 Bro Mynydd, Bryngwran

 

Mae’r cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

gan fod yr ymgeisydd yn swyddog perthnasol, fel y nodir yn adran 4.6.10.2 Cyfansoddiad y Cyngor. Mae’r cais wedi’i graffu gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais ar gyfer dymchwel y wal derfyn ar y drychiadau deheuol ynghyd â chodi ffens bren newydd ar hyd y ffiniau deheuol a gorllewinol.  Bydd y ffens bren yn 1.46m o uchder ar y ffin orllewinol a rhan fer o'r ffin ddeheuol.  Ar y drychiad Deheuol, bydd y ffens bren yn 2m o uchder a bydd yn cael ei chodi ar hyd llinell llain welededd y fynedfa yn lle'r wal gerrig isel bresennol sydd i'w dymchwel.  Fel y nodwyd yn gynharach yn yr adroddiad, bydd y ffens newydd yn cael ei lleoli fel ei bod yn dilyn llinell y lleiniau gwelededd presennol ac felly bydd yn sicrhau y gall cerbydau barhau i gael mynediad i fewn ac allan o'r safle’n ddiogel.  Ymgynghorwyd â’r Adran Briffyrdd fel rhan o'r cais, ac ni fynegwyd unrhyw bryderon ar yr amod y bydd y llain welededd bresennol yn cael ei chynnal a’i chadw ac na fydd dim byd sy'n fwy na 1.05m yn cael ei godi o fewn y llain welededd; gosodir amod i ddiogelu’r amod hwn.  Argymhellwyd cymeradwyo’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Neville Evans fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd Jackie Lewis y cynnig i gymeradwyo.

 

  PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y   Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio o fewn yr adroddiad.