Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 02/07/2025 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1 – OP/2025/3 – Ty’n Llain, Malltraeth

OP/2025/3

 

12.2 – FPL/2025/97 - Ponta Delgada, Stad Ravens Point, Bae Trearddur

FPL/2025/97

 

12.3 – FPL/2024/362 – 48 Ffordd Lligwy, Moelfre

FPL/2024/362

 

12.4 – VAR/2025/17 – Clwb Golff Llangefni, Llangefni

VAR/2025/17

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 12.1  OP/2025/3 – Cais amlinellol gyda phob mater wedi’i gadw’n ôl i godi annedd ar dir ger Ty'n Llain, Malltraeth.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.2  FPL/2025/97 - Cais llawn i ddymchwel yr annedd bresennol a chodi annedd yn ei lle yn Ponta Delgada, Ystâd Ravens Point, Bae Trearddur.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.3 FPL/2024/362 – Cais ôl-weithredol ar gyfer estyniad i’r cwrtil a chadw mynedfa newydd i gerbydau a thramwyfa yn 48 Ffordd Lligwy, Moelfre.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio o fewn yr adroddiad.

 

12.4 VAR/2025/17 – Cais dan Adran 73 i ddiwygio amod (09) (Cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2022/85 (Cais llawn am estyniad i’r cwrs golff presennol i greu cwrs pytio 'Putt Stroke' ynghyd â chodi adeilad clwb, adeilad bar a lluniaeth, adeilad lluniaeth ‘ty hanner ffordd’, bloc toiledau a datblygiad cysylltiedig) er mwyn diwygio gosodiad a dyluniad yr adeiladau arfaethedig yng Nghlwb Golff Llangefni.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio o fewn yr adroddiad.

Cofnodion:

 

12.1  OP/2025/3 – Cais amlinellol gyda phob mater wedi’i gadw’n ôl i godi annedd ar dir ger Ty'n Llain, Malltraeth.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Ifan Jones a’r Aelod Lleol am ymweliad safle.  Dywedodd mai argymhelliad y Swyddog oedd i wrthod y cais am ei fod mewn parth llifogydd.  Gofynnodd i aelodau ymweld â’r giatiau llifogydd a lleoliadau eraill yn yr ardal.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb y dylid cynnal ymweliad safle. Eiliodd y Cynghorydd Neville Evans y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.2  FPL/2025/97 - Cais llawn i ddymchwel yr annedd bresennol a chodi annedd yn ei lle yn Ponta Delgada, Ystâd Ravens Point, Bae Trearddur.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Gofynnod y Cynghorydd Keith Roberts, Aelod Lleol, ac ymweliad safle oherwydd pryderon o fewn yr ardal leol am y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cynnal ymweliad safle. Eiliodd y Cynghorydd John Ifan Jones y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.3 FPL/2024/362 – Cais ôl-weithredol ar gyfer estyniad i’r cwrtil a chadw mynedfa newydd i gerbydau a thramwyfa yn 48 Ffordd Lligwy, Moelfre.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod llain welededd o’r fynedfa i gerbydau’n croesi rhan bychan o ardd 91 Ffordd Lligwy, sy’n eiddo i Gyngor Sir Ynys Môn.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais cynllunio yn ôl-weithredol ar gyfer cadw’r estyniad i’r cwrtil preswyl a chadw mynedfa gerbydau newydd ar thramwyfa.  Mae’r estyniad i’r cwrtil wedi’i leoli i gyfeiriad de ddwyrain yr annedd bresennol, a chyn hynny, roedd yn arfer bod yn ddarn bach o ardal gwyrdd rhwng 48 Ffordd Lligwy a 91 Ffordd Lligwy.  Mae’r newid i ddefnydd y tir o fewn y cwrtil preswyl yn rhif 48 eisoes wedi’i gwblhau ar y safle, gyda rhan o’r tir bellach wedi’i droi yn dramwy a mynedfa gerbydau i Ffordd Lligwy.  Mae’r ardal yn mesur oddeutu 95 medr sgwâr gyda hanner y tir wedi’i amgylchynu gan wal isel, a’r hanner arall yn y cefn wedi’i amgylchynu gan ffens bren.  Ystyrir bod yr estyniad i’r cwrtil yn dderbyniol, gan ei fod wedi’i leoli drws nesaf i wal dalcen yr eiddo a’r ardd flaen bresennol. Mae ardal o dir gwyrdd sy’n agored i’r cyhoedd i gerdded arno rhwng rhif 48 a 91, er mwyn cael mynediad i gefn y tai, ac nid yw’r wal isel na’r ffens bren yn cael effaith andwyol ar yr annedd bresennol, anheddau cyfagos na’r ardal leol.  Mae’r fynedfa a thramwyfa newydd i gerbydau eisoes wedi’u hadeiladu ar y safle.  Mae’r fynedfa yn mesur 4.7m o hyd, yn cynnwys wal ffiniol sy’n 1m o uchder, ardal barcio gyda cherrig mân yn mesur 8.3m o hyd a 5.6m o led.  Mae’r cynllun ar gyfer y llain welededd gyda’r cais cynllunio’n dangos bod mwy na 50m o lain gwelededd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12