Mater - cyfarfodydd

The Executive's Forward Work Programme

Cyfarfod: 23/09/2025 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 5)

5 Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 222 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod rhwng Hydref 2025 a Mai 2026 gyda’r newidiadau y cyfeiriwyd atynt yn y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w gadarnhau, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth yn ymgorffori blaenraglen waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng misoedd Hydref 2025 a Mai 2026.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Democratiaeth ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith ar y newidiadau yn y flaenraglen waith, fel a ganlyn -

 

·      Cyfarfod 21 Hydref 2025 – Adroddiad Blynyddol Cwynion a Chwythu'r Chwiban 2024/25 a Rhaglen Cysylltu â Gwaith yr Adran Gwaith a Phensiynau – Cytundeb Cydweithio.

·      Cyfarfod 25 Tachwedd 2025 – Sylfaen y Dreth Gyngor 2026/27 a Chyllideb Refeniw Ddrafft am 2026/27 (yn amodol ar amserlen gosod cyllideb Llywodraeth Cymru)

·      Cyfarfod 16 Rhagfyr 2025 – Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2025/26 a Rhenti Tai a Thaliadau Gwasanaeth 2026/27

·      Cyfarfod 27 Ionawr 2026 - Strategaeth Gyfalaf, Gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl yn y gymuned - ffioedd a thaliadau, cartrefi preswyl yr Awdurdod Lleol - gosod y tâl safonol am 2026/27, ffioedd cartrefi gofal y sector annibynnol 2026/27 ac Ysgol Uwchradd Caergybi.

·      Cyfarfod 24 Chwefror 2026 - Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2026/27, Ffïoedd a Thaliadau am 2026/27, Cynllun Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2026/27 a Chyllideb Gyfalaf 2026/27.

·      Cyfarfod 24 Mawrth 2026 - Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2026-2056.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaenraglen Waith ddiweddaraf y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng misoedd Hydref 2025 a Mai 2026, gyda'r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.