6 Hunanasesiad ac Adrodd Perfformiad
PDF 171 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd gwneud yr argymhellion canlynol i’r Cyngor Llawn -
· Ei fod yn cymeradwyo’r newidiadau cyfansoddiadol sydd eu hangen er mwyn adlewyrchu uno’r Adroddiad Hunanasesu Blynyddol a’r Adroddiad Perfformiad (Llesiant) Blynyddol i fod yn un ddogfen unigol y cyfeirir ati fel yr Adroddiad Hunanasesiad a Pherfformiad (Llesiant).
· Ei fod yn cymeradwyo’r newidiadau i’r cyfansoddiad er mwyn adlewyrchu y bydd yr adroddiad wedi’i gyfuno y cyfeirir ato uchod yn swyddogaeth i’r Pwyllgor Gwaith.
· Ei fod yn awdurdodi’r Swyddog Monitro i wneud y newidiadau cyfansoddiadol sydd eu hangen er mwyn gweithredu paragraffau 1 a 2 uchod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd, i'w ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor/Monitro) yn argymell gwelliant i Gyfansoddiad y Cyngor i gyfuno'r Adroddiad Hunanasesu Blynyddol a'r Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn un ddogfen integredig. Byddai'r newid arfaethedig yn gwneud y Pwyllgor Gwaith yn gyfrifol am yr adroddiad cyfun.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid. Nododd fod cyhoeddi adroddiad Hunanasesu Blynyddol ac Adroddiad Llesiant Blynyddol yn ofyn statudol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, yn y drefn honno. Er bod y ddau adroddiad yn deillio o ddeddfwriaeth wahanol, maent yn cynnwys tir cyffredin sy'n dibynnu ar ddata a dadansoddiad tebyg i ddangos eu bod yn cydymffurfio â dwy set wahanol o ofynion statudol. Er mwyn lleihau gwaith dyblygu a sicrhau bod adnoddau'r Cyngor yn cael eu defnyddio mor effeithlon ac effeithiol â phosibl, ceid cynnig i gyfuno'r ddau adroddiad o dan y teitl Adroddiad Hunanasesu a Pherfformiad Blynyddol (Llesiant) a diwygio'r Cyfansoddiad i nodi bod yr adroddiad cyfun yn dod yn gyfrifoldeb y Pwyllgor Gwaith. Byddai'r adroddiad cyfun yn parhau i gael ei graffu gan y Pwyllgor Craffu Corfforaethol a’i oruchwylio gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o dan ei gylch gorchwyl statudol.
Croesawodd y Pwyllgor Gwaith y cynnig fel cam ymarferol a chadarnhaol sy'n gymorth i ddefnyddio adnoddau’n effeithlon wrth gynnal gwaith craffu ac atebolrwydd. Nododd fod y canllawiau statudol sy'n cyd-fynd â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn annog gwaith adrodd integredig lle bo modd.
Penderfynwyd argymell fel a ganlyn i’r Cyngor Llawn –
· Cymeradwyo'r newidiadau cyfansoddiadol gofynnol i nodi cyfuno'r Adroddiad ar yr Hunanasesiad Blynyddol a'r Adroddiad ar y Perfformiad (Llesiant) Blynyddol yn un ddogfen integredig o'r enw'r Adroddiad ar yr Hunanasesiad a’r Perfformiad (Llesiant) Blynyddol.
· Cymeradwyo newidiadau i'r Cyfansoddiad i nodi mai cyfrifoldeb y Pwyllgor Gwaith fydd yr adroddiad cyfun y cyfeirir ato uchod.
· Awdurdodi’r Swyddog Monitro i wneud y newidiadau cyfansoddiadol gofynnol i weithredu paragraffau 1 a 2 uchod.