10 Monitro'r Gyllideb Cyfalaf - Chwarter 1, 2025/26
PDF 586 KB
Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd -
· Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2025/26 yn ystod Chwarter 1.
· Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol gwerth £9.363m a ychwanegwyd i’r rhaglen gyfalaf a newidiadau mewn cyllid, yn unol ag Atodiad C, fydd yn rhoi cyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £56.186m ar gyfer 2025/26.
Cofnodion:
Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, oedd yn nodi perfformiad ariannol y gyllideb gyfalaf ar ddiwedd Chwarter 1, blwyddyn ariannol 2025/26.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Tai a Chyllid. Nododd fod y Cyngor, ym mis Mawrth 2025, wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf o £23.7m ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn dai a £20.594m ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai am flwyddyn ariannol 2025/26. Ym mis Gorffennaf 2025, cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith £2.529m o lithriad cyfalaf, i'w ddwyn ymlaen o 2024/25, gan ddod â'r rhaglen gyfalaf ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn dai i £25.929m a £20.894m ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai. Ers cynnal y broses gosod y gyllideb, roedd cynlluniau ychwanegol, wedi'u hariannu gan grantiau yn bennaf, wedi'u hychwanegu at y rhaglen, ynghyd ag addasiadau i gyllid, oedd yn gyfanswm o £9.363m. Deuai hyn â'r gyllideb gyfalaf gyffredinol am 2025/26 i £56.186m. Ar 30 Mehefin 2025, dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, fod £7.168m o'r gyllideb wedi'i wario gyda £723k pellach wedi'i ymrwymo, cyfanswm o £7.891m (14%). Fel arfer, roedd Chwarter 1 yn dawel, gyda nifer o gynlluniau cyfalaf wedi'u pwysoli tuag at ran olaf y flwyddyn ariannol.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y prosiectau oedd wedi'u tanwario yn cael eu hariannu gan y Cyngor, gan sicrhau nad oedd unrhyw berygl o golli cyllid.
Penderfynwyd –
· Nodi cynnydd gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2025/26 yn Chwarter 1.
· Cymeradwyo'r cynlluniau ychwanegol, £9.363m, i'r rhaglen gyfalaf a gwelliannau i gyllid yn unol ag Atodiad C yr adroddiad. Byddai hyn yn arwain at gyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £56.186m a 2025/26.