11 Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 1, 2025/26
PDF 299 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd nodi’r canlynol -
· Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 1 2025/26.
· Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2025/26.
Cofnodion:
Cyflwynwyd, i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai am y cyfnod o 1 Ebrill i 30 Mehefin 2025.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Tai a Chyllid a nododd bod y gyllideb refeniw wedi'i gosod gyda gwarged cyllidebol o £6,291k. £23,029k oedd y gyllideb gyfalaf gros am 2025/26. Roedd cyllid grant o £6,990k yn lleihau'r gyllideb net i £16,038k. Roedd cyfuniad y gyllideb refeniw a'r gyllideb gyfalaf addasedig yn creu diffyg cyllidebol cynlluniedig o £9,747k, y câi £6,820k ohono ei ariannu o gronfa wrth gefn y Cyfrif Refeniw Tai. Câi'r £2,927k oedd yn weddill ei ariannu trwy fenthyciad allanol. Roedd cyllideb refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai ar ddiwedd y chwarter cyntaf wedi tangyflawni o £177k, o'i gymharu â'r gyllideb broffiliedig. Rhagwelwyd y byddai gwariant cyfalaf, yn ogystal ag incwm grantiau, o fewn y gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn. Roedd y diffyg a ragwelwyd, oedd yn cyfuno refeniw a chyfalaf, bellach yn £9,558k, sef £189k yn llai na'r gyllideb.
Tynnodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol, sylw at gydymdrechion Tai a’r Gwasanaethau Cymdeithasol wrth ddatblygu llety ar gyfer unigolion bregus, yn enwedig oedolion ag anghenion arbennig/dysgu. Roedd y fenter hon yn rhan o'r strategaeth ehangach i foderneiddio gwasanaethau ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu a hyrwyddo cyfleoedd i'w galluogi i fyw bywydau llawn, annibynnol yn eu cymunedau eu hunain.
Penderfynwyd nodi’r isod –
· Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai am Chwarter 1 2025/26.
· Y rhagolwg am 2025/26.