Mater - cyfarfodydd

Housing Revenue Account Budget Monitoring – Quarter 1, 2025/26

Cyfarfod: 23/09/2025 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 11)

11 Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 1, 2025/26 pdf eicon PDF 299 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi’r canlynol -

 

·      Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 1 2025/26.

·      Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2025/26.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai am y cyfnod o 1 Ebrill i 30 Mehefin 2025.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Tai a Chyllid a nododd bod y gyllideb refeniw wedi'i gosod gyda gwarged cyllidebol o £6,291k. £23,029k oedd y gyllideb gyfalaf gros am 2025/26. Roedd cyllid grant o £6,990k yn lleihau'r gyllideb net i £16,038k. Roedd cyfuniad y gyllideb refeniw a'r gyllideb gyfalaf addasedig yn creu diffyg cyllidebol cynlluniedig o £9,747k, y câi £6,820k ohono ei ariannu o gronfa wrth gefn y Cyfrif Refeniw Tai. Câi'r £2,927k oedd yn weddill ei ariannu trwy fenthyciad allanol. Roedd cyllideb refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai ar ddiwedd y chwarter cyntaf wedi tangyflawni o £177k, o'i gymharu â'r gyllideb broffiliedig. Rhagwelwyd y byddai gwariant cyfalaf, yn ogystal ag incwm grantiau, o fewn y gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn. Roedd y diffyg a ragwelwyd, oedd yn cyfuno refeniw a chyfalaf, bellach yn £9,558k, sef £189k yn llai na'r gyllideb.

 

Tynnodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol, sylw at gydymdrechion Tai a’r Gwasanaethau Cymdeithasol wrth ddatblygu llety ar gyfer unigolion bregus, yn enwedig oedolion ag anghenion arbennig/dysgu. Roedd y fenter hon yn rhan o'r strategaeth ehangach i foderneiddio gwasanaethau ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu a hyrwyddo cyfleoedd i'w galluogi i fyw bywydau llawn, annibynnol yn eu cymunedau eu hunain.

 

Penderfynwyd nodi’r isod –

 

·      Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai am Chwarter 1 2025/26.

·      Y rhagolwg am 2025/26.