Mater - cyfarfodydd

Draft Corporate Self-Assessment 2024/25

Cyfarfod: 23/09/2025 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 7)

7 Hunanasesiad Drafft 2024/25 pdf eicon PDF 638 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Professiwn - AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd mabwysiadu’r ddogfen a gyflwynwyd fel “drafft gweithredol” a gwahodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i ystyried ei gynnwys ymhellach yn ei gyfarfod ar 30 Medi 2025.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad Pennaeth y Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn ymgorffori'r Hunanasesiad drafft am 2024/25. Mae'r hunanasesiad yn ymarfer blynyddol statudol sy'n gwerthuso pa mor dda y mae'r Cyngor wedi perfformio, y modd y mae’n defnyddio adnoddau a'i drefniadau llywodraethu.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid, yn uchafbwynt sawl mis o waith. Tynnodd ar sail dystiolaeth eang i asesu pa mor effeithiol y mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau, yn defnyddio ei adnoddau ac yn cynnal llywodraethu cadarn. Yn ystod 2024, adolygodd a mireiniodd y Cyngor ei ddull hunanasesu i symleiddio a chryfhau'r broses ymhellach. Gan weithio ar y cyd ar draws gwasanaethau, diwygiwyd y templed i ganolbwyntio ar bedwar maes allweddol sy'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol – Cynllunio a Pherfformiad Gwasanaethau, Cynllunio'r Gweithlu, Cynllunio a Llywodraethu Ariannol gan gynnwys Risg, Archwilio, Caffael a Rheoli Contractau. Gofynnwyd i bob gwasanaeth werthuso ei berfformiad yn erbyn meini prawf oedd wedi'u diweddaru ac yna cafodd ei herio ar ei ganfyddiadau trwy gyfarfodydd adolygu gwasanaethau. Roedd yr hunanasesiad a ddeilliai o hyn yn crynhoi perfformiad cyffredinol y Cyngor am 2024/25 ac yn tynnu sylw at gryfderau a meysydd a nodwyd yn gyfleoedd i wella.

 

Pwysleisiodd y Cadeirydd fod hunanasesiad yn broses barhaus yn y Cyngor gydag aelodau portffolio yn mynd ati’n ddygn yn eu meysydd priodol. Roedd asesiad statudol o’r Panel Perfformiad, sy'n ofynnol unwaith ym mhob cylch etholiad, wedi'i drefnu am ddiwedd y flwyddyn, gyda'r hunanasesiad yn rhan sylweddol o'r adolygiad hwnnw. Nododd fod y broses herio o fewn yr hunanasesiad wedi bod yn fanwl a thrylwyr ac y câi ei defnyddio'n adeiladol i ysgogi gwelliant.

 

Nodwyd, hefyd, fod adborth allanol gan bartneriaid, rhanddeiliaid a rheoleiddwyr, megis adroddiadau Arolygiaeth Gofal Cymru ar wasanaethau cymdeithasol, yn elfen bwysig o'r hunanasesiad, wrth gyflwyno tystiolaeth glir a chadarn i gefnogi'r canfyddiadau.

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r ddogfen a gyflwynwyd yn "ddrafft gweithredol" a gwahodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i roi rhagor o ystyriaeth iddi yn ei gyfarfod ar 30 Medi 2025.