Mater - cyfarfodydd

Petition request for a community review of Pentraeth Community Council

Cyfarfod: 23/09/2025 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 13)

13 Cais am Arolwg Cymunedol o Gyngor Cymuned Pentraeth pdf eicon PDF 107 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd -

 

·      Cytuno i gynnal Arolwg Cymunedol adran 31 o Gyngor Cymuned Pentraeth yn unol â’r cais a gyflwynwyd gan etholwyr.

·      Cynnal yr arolwg fel rhan o Arolwg Cymunedol adran 31 ar gyfer yr Ynys gyfan.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth mewn ymateb i gais trwy ddeiseb am adolygiad cymunedol o Gyngor Cymuned Pentraeth.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid. Nododd fod rhai o etholwyr cymuned Pentraeth wedi cyflwyno deiseb ddilys, ar 28 Gorffennaf 2025, yn galw ar y Cyngor i gychwyn adolygiad llywodraethu cymunedol adran 31 o'u cyngor cymuned. Cyfeiriodd y ddeiseb at y ffaith nad oedd hyder yn y cyngor oherwydd y cafwyd methiannau parhaus honedig, penderfyniadau gwael ac nad oedd tryloywder mewn llywodraethu a chynrychiolaeth leol. Galwodd y ddeiseb, hefyd, am atal unrhyw waith cyfethol neu benodiadau etholiadol i'r cyngor cymuned hyd oni byddai’r adolygiad wedi’i gynnal. Mewn ymateb, ysgrifennodd Swyddogion yn ôl at drefnydd y ddeiseb i egluro bod gweithdrefnau etholiadol a chyfethol wedi'u dilyn yn briodol ac nad oedd gan y Cyngor Sir unrhyw awdurdod cyfreithiol i ymyrryd yn y mater. Er gwaethaf dau gyfle diweddar i alw am etholiad, ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau ac, felly, roedd pedair swydd wag wedi'u prosesu trwy gyfethol a byddai tair swydd wag arall, hefyd, yn cael eu prosesu fel hyn.

 

Esboniodd y Cynghorydd Carwyn Jones mai pwrpas adolygiad cymunedol oedd asesu a oedd ffiniau wardiau cymunedol presennol yn parhau i fod yn addas yng ngoleuni newidiadau poblogaeth neu unrhyw ddatblygiadau eraill. Yn ddelfrydol, dylai adolygiad o'r fath gael ei gynnal cyn i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gynnal adolygiad etholiadol. Cynhelid adolygiad o'r fath gan y Comisiwn yn Ynys Môn rhwng Medi 2027 a Gorffennaf 2028. Roedd y Cyngor yn bwriadu cynnal adolygiad cymunedol adran 31 ar draws yr ynys cyn yr etholiadau llywodraeth leol nesaf ym mis Mai 2027, gan ddechrau'r broses erbyn diwedd 2025. Er mwyn sicrhau defnydd effeithlon o arian cyhoeddus ac adnoddau staffio, yr argymhelliad oedd cynnal adolygiad Pentraeth fel rhan o'r adolygiad o’r ynys ehangach.

 

Mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor Gwaith, eglurodd y Pennaeth Democratiaeth fod adolygiad cymunedol adran 31 yn ystyried y trefniadau ar gyfer cynrychiolaeth ar gynghorau cymuned gan gynnwys nifer aelodau'r cyngor. Gallai’r adolygiad, hefyd, archwilio sut roedd wardiau wedi'u trefnu, gan gynnwys nifer y wardiau a'u ffiniau. Cynhelid yr adolygiadau hyn i sicrhau bod trefniadau etholiadol yn parhau i fod yn briodol cyn etholiad llywodraeth leol ac ystyried unrhyw newidiadau eraill yn y gymuned. O ran yr amserlen, eglurodd y Pennaeth Democratiaeth fod y broses yn cynnwys pedwar prif gam – cyhoeddusrwydd cychwynnol, ymchwiliadau cychwynnol ac ymgynghori, cynigion drafft ac ymgynghori ar y cynigion hynny ac argymhellion terfynol. Trefnwyd cynnal y ddau gam cyntaf rhwng mis Rhagfyr 2025 ac Ebrill 2026, gyda'r camau sy'n weddill wedi'u cynllunio ar gyfer rhwng mis Mehefin 2026 a mis Rhagfyr 2026. Byddid yn oedi’r broses ar gyfer etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2026. Byddid, hefyd, yn ceisio mewnbwn gan y Comisiwn Ffiniau.

 

Wrth ymateb i gais am sicrwydd y câi adolygiad cymunedol ei ystyried yn ddigwyddiad arferol ac, oherwydd y cais penodol, y byddid yn rhoi blaenoriaeth i adolygiad o Gyngor Pentraeth  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13