Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 01/10/2025 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 2 MB

7.1 - OP/2025/3 – Ty’n Llain, Malltraeth

OP/2025/3

 

7.2 – OP/2025/1 – Ffordd Llanfawr, Caergybi

OP/2025/1

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 7.1  OP/2025/3 Cais amlinellol gyda phob mater wedi’i gadw’n ôl i godi annedd ar dir ger Ty'n Llain, Malltraeth.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r penderfyniad i ganiatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. 

 

7.2 OP/2-25/1 - Cais amlinellol ar gyfer codi 9 annedd fforddiadwy sy’n cynnwys manylion llawn y fynedfa, edrychiad, gosodiad a graddfa’r tir ger Ffordd Llanfawr, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio o fewn yr adroddiad.

Cofnodion:

7.1 OP/2025/3 – Cais amlinellol gyda phob mater wedi’i gadw’n ôl i godi annedd ar dir ger Ty'n Llain, Malltraeth

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.  Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf, 2025, argymhellodd y Pwyllgor eu bod yn ymweld â’r safle, a chynhaliwyd yr ymweliad ar 30 Gorffennaf, 2025.  Yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Medi, 2025 penderfynwyd cymeradwyo'r cais, yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd ystyrid bod y safle yn ardal heb hanes llifogydd ac yn safle mewnlenwi rhwng eiddo preswyl presennol.  Mae'r safle mewn parth llifogydd sydd mewn risg o lifogydd o’r môr, ond mae gan Falltraeth fesurau atal llifogydd sy'n cael eu cynnal gan Cyfoeth Naturiol Cymru. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod safle'r cais yn bennaf o fewn Parth Llifogydd C2 ar y Map Cyngor Datblygu, at ddibenion TAN 15 (2004).  Mae safle’r cais cyfan hefyd yn dod o fewn Moroedd Parth Llifogydd C3, ar y Mapiau Llifogydd ar gyfer Cynllunio mwy diweddar y cyfeirir atynt yn y TAN 15 (2025) diweddar.  Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru TAN 15 newydd yn ystod cyfnod y cais hwn.  Mae'r ddogfen yn cadarnhau y dylid ei darllen ar y cyd â Pholisi Cynllunio Cymru a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru sy’n cymryd lle’r TAN 14 a'r TAN 15 blaenorol.  Fodd bynnag, bydd y Datganiad Ysgrifenedig Gweinidogol dyddiedig 31 Mawrth, 2025, a oedd yn cyd-fynd â chyhoeddi'r TAN newydd, yn parhau i gael ei asesu yn erbyn y fersiwn flaenorol.  Diffinnir Parth Llifogydd C2 fel ardaloedd o'r gorlifdir heb isadeiledd amddiffyn rhag llifogydd sylweddol ac mae TAN 15 (2004) yn datgan yn glir na ddylid caniatáu 'datblygiad bregus iawn' sy'n cynnwys pob adeilad preswyl, mewn parthau o'r fath.  Mae'r egwyddor hon yn arbennig o bwysig o ystyried newid hinsawdd, sydd yn ôl Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 12) yn debygol o gynyddu'r risg o lifogydd oherwydd cynnydd yn lefel y môr.  Mae Polisi Cynllunio Cymru hefyd yn datgan y dylai awdurdodau cynllunio fod yn rhagofalus ac osgoi datblygu mewn ardaloedd sy’n wynebu llifogydd o'r môr neu o afonydd.  Mae'r egwyddorion hyn yn cael eu hadlewyrchu ym mholisi PS6 o'r Cynllun Datblygu Lleol sydd, ymysg pethau eraill, yn ceisio sicrhau nad yw datblygiadau’n cael eu lleoli mewn ardaloedd lle mae risg o lifogydd, er mwyn addasu i effeithiau newid hinsawdd.  Mae datblygiad bregus iawn yn cael ei ddosbarthu fel pob safle preswyl, adeiladau cyhoeddus, yn enwedig datblygiadau diwydiannol arbennig o fregus a safleoedd gwaredu gwastraff. Mae paragraff 7.4 yn Nodyn Cyngor Technegol 15 yn datgan bod rhaid gwneud astudiaeth gynhwysfawr o lifogydd cyn penderfynu a all datblygiad fynd yn ei flaen. Dylai hyn edrych ar beth sy’n achosi’r llifogydd a sut fyddai’r llifogydd hynny yn effeithio ar y datblygiad. Rhaid i'r astudiaeth fod yn briodol ar gyfer maint a graddfa’r datblygiad a gynigir.  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwrthwynebu'r cais gan nad yw'r Asesiad Canlyniadau Llifogydd yn dangos y gellir rheoli risgiau a chanlyniadau llifogydd i lefel dderbyniol yn unol â  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7