Mater - cyfarfodydd

Materion Eraill

Cyfarfod: 01/10/2025 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 13)

13 Materion Eraill pdf eicon PDF 400 KB

13.1 Gorchymyn Rheoleiddio Traffic

 

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastaff a Eiddo.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

13.1 Gorchmynion Rheoliadau Traffig

 

PENDERFYNWYD :-

 

·     Gorchymyn Traffig - Ward Twrcelyn

 

A5025 Amlwch

Amlwch - Lôn Parys i Ffordd Madyn

A5025 - Porth Llechog

 

Cymeradwyo’r ardaloedd a nodir uchod ar gyfer eu cadarnhau fel Gorchmynion Rheoliadau Traffig.

 

·     Gorchymyn Traffig - Wardiau Canolbarth Môn a Cefni

 

A5 Ffordd ddynesu Bodffordd

Llangefni - Ffordd y Stad Ddiwydiannol

B5111 - Ffordd Ddynesu Rhosmeirch Coedana

Talwrn - Ffordd yr Hen Ysgol

 

Cymeradwyo’r ardaloedd a nodir uchod ar gyfer eu cadarnhau fel Gorchmynion Rheoliadau Traffig.

 

·     Gorchymyn Traffig - Wardiau Bro’r Llynnoedd/Crigyll/Aberffraw/Talybolin

 

Bryn Du - ffordd ddynesu o Llanfaelog

Caergeiliog - Ffordd ddynesu Bryngwran o gyffordd Dalar

A5025 Llanfachraeth

Llanfihangel yn Nhowyn, RAF Y Fali, Ffordd Minffordd

 

Cymeradwyo’r ardaloedd a nodir uchod ar gyfer eu cadarnhau fel Gorchmynion Rheoliadau Traffig.

 

A4080 Niwbwrch - ffordd ddynesu Malltraeth - peidio â pharhau â’r cais o ganlyniad i’r fenter Teithio Llesol yn yr ardal.

 

A4080 Rhosneigr - ffordd ddynesu Llyn Maelog - peidio â pharhau â’r cais o ganlyniad i bryderon diogelwch yn yr ardal.

 

·     Gorchymyn Traffig - Ward Bodowyr

 

Ffordd ddynesu’r A5, Llanddaniel

Ffordd ddynesu Llanedwen, Llanddaniel

Ffordd ddynesu’r groesfan wastad, Llanddaniel

 

Cymeradwyo’r ardaloedd a nodir uchod ar gyfer eu cadarnhau fel Gorchmynion Rheoliadau Traffig.

 

Gaerwen - Lôn Groes - Stad Ddiwydiannol - peidio â pharhau â’r cais o ganlyniad i bryderon am nifer o newidiadau i gyfyngiadau cyflymder yn yr ardal.  Cytunwyd i adolygu’r cynnig hwn.

 

 

 

·     Gorchymyn Rheoliadau Traffig - Ward Cybi

 

A5153 Caergybi - Parc Cybi

A5154 Caergybi - Ffordd Fictoria

Bae Trearddur, B4545 Lôn St Ffraid Ddwyreiniol

 

Cymeradwyo’r ardaloedd a nodir uchod ar gyfer eu cadarnhau fel Gorchmynion Rheoliadau Traffig.

 

·         Gorchymyn Rheoliadau Traffig - Wardiau Seiriol ac Aethwy

 

Llandegfan - Ffordd yr Eglwys

Llanfaes - lôn Dosbarth 3 heb ei henwi o’r B5109

Llanfairpwll - A5025 ger y cyfleuster Parcio a Rhannu

 

Cymeradwyo’r ardaloedd a nodir uchod ar gyfer eu cadarnhau fel Gorchmynion Rheoliadau Traffig.

 

·         Gorchymyn Rheoliadau Traffig - Ward Lligwy

 

A5025 - Benllech

Ffordd ddynesu Biwmares B5109 Pentraeth

 

Cymeradwyo’r ardaloedd a nodir uchod ar gyfer eu cadarnhau fel Gorchmynion Rheoliadau Traffig

Cofnodion:

13.1 Gorchmynion Rheoleiddio Traffig

 

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff.

 

Adroddodd y Peiriannydd Grŵp (Rheoli Datblygu) a Rheoli Traffig fod yr adroddiad yn manylu ar y gwrthwynebiadau a'r sylwadau a dderbyniwyd yn dilyn hysbysebu sawl Gorchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig ar gyfer nifer o leoliadau mewn perthynas â rhannau o ffyrdd sydd wedi'u heithrio o'r terfynau cyflymder 20mya gorfodol a gyflwynwyd ym mis Medi, 2023.  Nododd fod yr Awdurdod wedi paratoi 7 Gorchymyn Rheoleiddio Traffig gan gynnwys 25 o newidiadau i ardaloedd sy'n troi’n ôl i fod yn 30mya neu 40mya.  Yn ystod y cyfnod ymgynghori derbyniwyd sawl gwrthwynebiad ynglŷn â'r cynigion sydd wedi golygu bod angen

cyflwyno'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion i'w penderfynu. Dywedodd ymhellach, ar ôl cyflwyno'r terfynau cyflymder gorfodol 20 mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru, bod yr Awdurdod wedi derbyn Canllawiau Llywodraeth Cymru i edrych ar y ffyrdd A a B a'r prif ardaloedd adeiledig yn bennaf.  Cyhoeddwyd canllawiau wedi'u diweddaru ym mis Gorffennaf, 2024 gyda newidiadau i'r geiriad o dan Feini Prawf Lle fel bod mwy o hyblygrwydd, ac i’w gwneud yn gliriach ar ba ffyrdd y gallai terfyn cyflymder o 30mya fod yn fwy priodol.  Rhwng Ebrill 2024 a Thachwedd 2024, rhoddodd yr awdurdod wahoddiad i aelodau lleol, cynghorau tref/cymuned a'r cyhoedd roi adborth ar ba ffyrdd yr hoffent i'r awdurdod eu hasesu a rhoi rhesymau dilys dros y cais, yn seiliedig ar y canllawiau oedd wedi'u diweddaru.  Cyhoeddwyd y rhestr derfynol o'r ffyrdd a awgrymwyd ar wefan y Cyngor sy’n cynnwys cyfanswm o 47 o ffyrdd.  Aseswyd pob rhan o'r ffyrdd gan ddefnyddio fframwaith/taflen asesu fanwl yn seiliedig ar y canllawiau a oedd wedi'u diweddaru.  Cyflwynwyd rhestr fer o ffyrdd priodol i'w hystyried i’w troi’n ôl i fod yn ffyrdd 30mya i Grŵp Llywio o Aelodau Etholedig o bob grŵp gwleidyddol ac Uwch Swyddogion o fewn yr Adran Priffyrdd.  Cynhaliwyd cyfanswm o 3 cyfarfod rhwng Awst a Hydref 2024 er mwyn adolygu'r holl gynigion ac i gwblhau rhestr o'r 27 safle; cafodd dau safle eu tynnu oddi ar y rhestr gan adael 25 o safleoedd i’w hystyried.  Cynhaliwyd ymgynghoriad statudol gyda chynghorau tref/cymuned lleol, aelodau etholedig, gwasanaethau brys a’r gymdeithas trafnidiaeth cludo nwyddau rhwng 14 Chwefror, 2025 a 4 Ebrill, 2025.  Derbyniwyd 103 o sylwadau o blaid ac yn erbyn y cynigion yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus rhwng mis Mai 2025 a Mehefin, 2025. Roedd crynodeb o'r ymatebion wedi’i gynnwys yn yr adroddiad. 

 

Roedd y 7 Gorchymyn Rheoliadau Traffig fel a ganlyn:

 

  • Ward Twrcelyn

 

Amlwch A5025

Amlwch – Lôn Parys i Ffordd Madyn

Porthllechog – A5025

 

Dywedodd y Cynghorydd Derek Owen, Aelod Lleol ei fod yn cytuno â'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn Ward Twrcelyn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, ac eiliodd y Cynghorydd John Ifan Jones y cynnig i’w gymeradwyo.

 

·       Wardiau Canolbarth Môn a Chefni

 

A5 Ffordd ddynesu Bodffordd

Llangefni – Ffordd yr Ystâd Ddiwydiannol

B5111 Rhosmeirch - Ffordd ddynesu Coedana

Talwrn – Ffordd yr Hen  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13