13.1 Gorchymyn Rheoleiddio Traffic
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastaff a Eiddo.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
13.1 Gorchmynion Rheoliadau Traffig
PENDERFYNWYD :-
· Gorchymyn Traffig - Ward Twrcelyn
A5025 Amlwch
Amlwch - Lôn Parys i Ffordd Madyn
A5025 - Porth Llechog
Cymeradwyo’r ardaloedd a nodir uchod ar gyfer eu cadarnhau fel Gorchmynion Rheoliadau Traffig.
· Gorchymyn Traffig - Wardiau Canolbarth Môn a Cefni
A5 Ffordd ddynesu Bodffordd
Llangefni - Ffordd y Stad Ddiwydiannol
B5111 - Ffordd Ddynesu Rhosmeirch Coedana
Talwrn - Ffordd yr Hen Ysgol
Cymeradwyo’r ardaloedd a nodir uchod ar gyfer eu cadarnhau fel Gorchmynion Rheoliadau Traffig.
· Gorchymyn Traffig - Wardiau Bro’r Llynnoedd/Crigyll/Aberffraw/Talybolin
Bryn Du - ffordd ddynesu o Llanfaelog
Caergeiliog - Ffordd ddynesu Bryngwran o gyffordd Dalar
A5025 Llanfachraeth
Llanfihangel yn Nhowyn, RAF Y Fali, Ffordd Minffordd
Cymeradwyo’r ardaloedd a nodir uchod ar gyfer eu cadarnhau fel Gorchmynion Rheoliadau Traffig.
A4080 Niwbwrch - ffordd ddynesu Malltraeth - peidio â pharhau â’r cais o ganlyniad i’r fenter Teithio Llesol yn yr ardal.
A4080 Rhosneigr - ffordd ddynesu Llyn Maelog - peidio â pharhau â’r cais o ganlyniad i bryderon diogelwch yn yr ardal.
· Gorchymyn Traffig - Ward Bodowyr
Ffordd ddynesu’r A5, Llanddaniel
Ffordd ddynesu Llanedwen, Llanddaniel
Ffordd ddynesu’r groesfan wastad, Llanddaniel
Cymeradwyo’r ardaloedd a nodir uchod ar gyfer eu cadarnhau fel Gorchmynion Rheoliadau Traffig.
Gaerwen - Lôn Groes - Stad Ddiwydiannol - peidio â pharhau â’r cais o ganlyniad i bryderon am nifer o newidiadau i gyfyngiadau cyflymder yn yr ardal. Cytunwyd i adolygu’r cynnig hwn.
· Gorchymyn Rheoliadau Traffig - Ward Cybi
A5153 Caergybi - Parc Cybi
A5154 Caergybi - Ffordd Fictoria
Bae Trearddur, B4545 Lôn St Ffraid Ddwyreiniol
Cymeradwyo’r ardaloedd a nodir uchod ar gyfer eu cadarnhau fel Gorchmynion Rheoliadau Traffig.
· Gorchymyn Rheoliadau Traffig - Wardiau Seiriol ac Aethwy
Llandegfan - Ffordd yr Eglwys
Llanfaes - lôn Dosbarth 3 heb ei henwi o’r B5109
Llanfairpwll - A5025 ger y cyfleuster Parcio a Rhannu
Cymeradwyo’r ardaloedd a nodir uchod ar gyfer eu cadarnhau fel Gorchmynion Rheoliadau Traffig.
· Gorchymyn Rheoliadau Traffig - Ward Lligwy
A5025 - Benllech
Ffordd ddynesu Biwmares B5109 Pentraeth
Cymeradwyo’r ardaloedd a nodir uchod ar gyfer eu cadarnhau fel Gorchmynion Rheoliadau Traffig
Cofnodion:
13.1 Gorchmynion Rheoleiddio Traffig
Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff.
Adroddodd y Peiriannydd Grŵp (Rheoli Datblygu) a Rheoli Traffig fod yr adroddiad yn manylu ar y gwrthwynebiadau a'r sylwadau a dderbyniwyd yn dilyn hysbysebu sawl Gorchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig ar gyfer nifer o leoliadau mewn perthynas â rhannau o ffyrdd sydd wedi'u heithrio o'r terfynau cyflymder 20mya gorfodol a gyflwynwyd ym mis Medi, 2023. Nododd fod yr Awdurdod wedi paratoi 7 Gorchymyn Rheoleiddio Traffig gan gynnwys 25 o newidiadau i ardaloedd sy'n troi’n ôl i fod yn 30mya neu 40mya. Yn ystod y cyfnod ymgynghori derbyniwyd sawl gwrthwynebiad ynglŷn â'r cynigion sydd wedi golygu bod angen
cyflwyno'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion i'w penderfynu. Dywedodd ymhellach, ar ôl cyflwyno'r terfynau cyflymder gorfodol 20 mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru, bod yr Awdurdod wedi derbyn Canllawiau Llywodraeth Cymru i edrych ar y ffyrdd A a B a'r prif ardaloedd adeiledig yn bennaf. Cyhoeddwyd canllawiau wedi'u diweddaru ym mis Gorffennaf, 2024 gyda newidiadau i'r geiriad o dan Feini Prawf Lle fel bod mwy o hyblygrwydd, ac i’w gwneud yn gliriach ar ba ffyrdd y gallai terfyn cyflymder o 30mya fod yn fwy priodol. Rhwng Ebrill 2024 a Thachwedd 2024, rhoddodd yr awdurdod wahoddiad i aelodau lleol, cynghorau tref/cymuned a'r cyhoedd roi adborth ar ba ffyrdd yr hoffent i'r awdurdod eu hasesu a rhoi rhesymau dilys dros y cais, yn seiliedig ar y canllawiau oedd wedi'u diweddaru. Cyhoeddwyd y rhestr derfynol o'r ffyrdd a awgrymwyd ar wefan y Cyngor sy’n cynnwys cyfanswm o 47 o ffyrdd. Aseswyd pob rhan o'r ffyrdd gan ddefnyddio fframwaith/taflen asesu fanwl yn seiliedig ar y canllawiau a oedd wedi'u diweddaru. Cyflwynwyd rhestr fer o ffyrdd priodol i'w hystyried i’w troi’n ôl i fod yn ffyrdd 30mya i Grŵp Llywio o Aelodau Etholedig o bob grŵp gwleidyddol ac Uwch Swyddogion o fewn yr Adran Priffyrdd. Cynhaliwyd cyfanswm o 3 cyfarfod rhwng Awst a Hydref 2024 er mwyn adolygu'r holl gynigion ac i gwblhau rhestr o'r 27 safle; cafodd dau safle eu tynnu oddi ar y rhestr gan adael 25 o safleoedd i’w hystyried. Cynhaliwyd ymgynghoriad statudol gyda chynghorau tref/cymuned lleol, aelodau etholedig, gwasanaethau brys a’r gymdeithas trafnidiaeth cludo nwyddau rhwng 14 Chwefror, 2025 a 4 Ebrill, 2025. Derbyniwyd 103 o sylwadau o blaid ac yn erbyn y cynigion yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus rhwng mis Mai 2025 a Mehefin, 2025. Roedd crynodeb o'r ymatebion wedi’i gynnwys yn yr adroddiad.
Roedd y 7 Gorchymyn Rheoliadau Traffig fel a ganlyn:
Amlwch A5025
Amlwch – Lôn Parys i Ffordd Madyn
Porthllechog – A5025
Dywedodd y Cynghorydd Derek Owen, Aelod Lleol ei fod yn cytuno â'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn Ward Twrcelyn.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, ac eiliodd y Cynghorydd John Ifan Jones y cynnig i’w gymeradwyo.
· Wardiau Canolbarth Môn a Chefni
A5 Ffordd ddynesu Bodffordd
Llangefni – Ffordd yr Ystâd Ddiwydiannol
B5111 Rhosmeirch - Ffordd ddynesu Coedana
Talwrn – Ffordd yr Hen ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13