Mater - cyfarfodydd

?

Cyfarfod: 02/10/2025 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 6)

Her Gyfreithiol Posibl i'r Penderfyniad i Roi Caniatâd Cynllunio i Fferm Solar Alaw Môn (Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol)

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

 

·       cyfarwyddo Swyddogion i herio’r caniatâd a roddwyd i’r cais Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cyf. DNS-3274702) gan Weinidogion Cymru dan adran 288 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref (adran 288(4) ac adran 284(3)(aa) Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990);  

·       rhoi awdurdod i ryddhau arian er mwyn cyflwyno’r her hon yn unol â’r awdurdod a roddwyd iddynt yng Nghyllideb y Cyngor 2025/2026 ac yn amodol ar fonitro parhaus a chefnogaeth y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151;

·       gyda chymeradwyaeth gan Gadeirydd y Cyngor, i atal hawl y Pwyllgor Sgriwtini i alw’r penderfyniad hwn i mewn.  Byddai oedi’r penderfyniad er mwyn ei alw i mewn yn cael effaith negyddol ar fuddiant y Cyngor am fod rhaid cyflwyno’r her gyfreithiol i’r Uchel Lys erbyn 7 Hydref, 2025 fan bellaf.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith ynghylch yr her gyfreithiol bosibl i'r penderfyniad i roi caniatâd cynllunio i Fferm Solar Alaw Môn.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod cyfarfod llawn Cyngor Sir Ynys Môn a gynhaliwyd ar 25 Medi 2025 wedi dod i’r casgliad y dylid ymgymryd â Her Gyfreithiol i benderfyniad Llywodraeth Cymru i gymeradwyo'r caniatâd cynllunio i Fferm Solar Alaw Môn.  Nododd fod y Cyngor wedi herio’r penderfyniad i ganiatáu’r cais gan fod y Cyngor wedi mynegi pryderon drwy gydol y broses gynllunio. 

 

Dywedodd Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod gwaith sylweddol wedi'i wneud ynghylch a oes posibilrwydd i herio'r penderfyniad.  Mae’r Cyngor wedi adolygu Barn Bargyfreithiwr Arbenigol ynglŷn â’r sail ar gyfer cyflwyno her gyfreithiol i’r Uchel Lys.  Mae’r Cwnsler o’r farn bod siawns gref iawn o herio’r caniatâd a roddwyd yn llwyddiannus. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

·         cyfarwyddo Swyddogion i herio’r caniatâd a roddwyd i’r cais Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cyf. DNS-3274702) gan Weinidogion Cymru dan adran 288 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref (adran 288(4) ac adran 284(3)(aa) Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990);  

·         rhoi awdurdod i ryddhau arian er mwyn cyflwyno’r her hon yn unol â’r awdurdod a roddwyd iddynt yng Nghyllideb y Cyngor 2025/2026 ac yn amodol ar fonitro parhaus a chefnogaeth y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151;

·         gyda chymeradwyaeth blaenorol Cadeirydd y Cyngor, i atal hawl y Pwyllgor Sgriwtini i alw’r penderfyniad hwn i mewn.  Byddai oedi’r penderfyniad er mwyn i’r Pwyllgor Sgriwtini ei alw i mewn yn cael effaith negyddol am fod rhaid cyflwyno’r her gyfreithiol i’r Uchel Lys erbyn 7 Hydref, 2025 fan bellaf.