Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 03/12/2025 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1 – HHP/2025/93 - Capel Smyrna, Lon Glanhwfa, Llangefni.

HHP/2025/93

 

12.2 – HHP/2025/151 – Ty Hen Efail, Llanddona

HHP/2025/151

 

12.3 – LUE/2025/30 – Cyffordd Star, Star

LUE/2025/30

 

12.4 – VAR/2025/42 – Cyffordd Star, Star

VAR/2025/42

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1  HHP/2025/93 – Cais llawn ar gyfer adeiladu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â lle parcio yng Nghapel Smyrna, Ffordd Glanhwfa, Llangefni

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

12.2  HHP/2025/151 – Cais llawn ar gyfer codi balconi, ynghyd â chodi garej yn Nhŷ Hen Efail, Llanddona

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.3  LUE/2025/30 – Cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon ar gyfer defnydd presennol datblygiad gweithredol a gyflawnwyd i weithredu caniatâd cynllunio 41LPA1041/FR/TR/CC ar dir i'r dwyrain o Gyffordd Star, Star

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.4  VAR/2025/42 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (11) (CTMP) a (17) (Adroddiad Manwl ar Waith Archaeoleg) o caniatâd cynllunio rhif 41LPA1041/FR/TR/CC (Creu safle Sipsiwn a Theithwyr) er mwyn galluogi'r CTMP i gael ei gyflwyno ar ôl dechrau'r datblygiad, ac i alluogi'r adroddiad archeolegol i gael ei gyflwyno o fewn cyfnod amser gwahanol yng Nghyffordd Star, Star

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

12.1  HHP/2025/93 – Cais llawn ar gyfer adeiladu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â lle parcio yng Nghapel Smyrna, Ffordd Glanhwfa, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon lleol a materion yn ymwneud â diogelwch y briffordd.

 

Siarad Cyhoeddus

 

Siaradodd Mr Ynyr Berry o blaid y cais a dywedodd mai ef a’i frawd sydd berchen Capel Smyra a nhw yw’r datblygwyr hefyd. Dywedodd fod ei frawd ag ef wedi cael eu magu yma ar Ynys Môn a’u bod wedi dychwelyd i’r ardal ar ôl treulio nifer o flynyddoedd dramor. Gofynnir am ganiatâd i osod cwrb isel er mwyn creu dreif ar hyd ochr yr Ysgoldy yng Nghapel Smyrna. Buddsoddwyd amser, arian ac adnoddau sylweddol er mwyn dod â’r adeiladau hanesyddol hyn yn ôl i ddefnydd ystyrlon, a’r bwriad yw gwella’r ardal leol, gwarchod cymeriad diwylliannol a chyfrannu’n bositif at gyflenwad tai yn Llangefni. Mae’r bwriadau’n alinio â’r weledigaeth strategol ar gyfer Llangefni a nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a fabwysiadwyd ar Ynys Môn a Gwynedd, sef “cynnal a chryfhau ei rôl fel tref sy’n darparu cartrefi, swyddi a chyfleusterau cymunedol”. Mae’r safle’n ffurfio rhan o brosiect adfywio treftadaeth ehangach yng Nghapel Smyrna. Bydd yr ysgoldy’n cael ei droi’n annedd yn ystod Cam 1 y gwaith. Nod Cam 2 fydd creu datblygiad defnydd cymysg sy’n cynnwys Gofod Rhannu Mannau Gwaith a Gwasanaethau Ieuenctid, a bydd hyn yn cyd-fynd â nifer o bolisïau strategol a nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Ni ellir bwrw ymlaen â Cham 2 heb adnewyddu’r Ysgoldy yn gyntaf. Mae’r cwrb isel yn hanfodol am sawl rheswm: -

1. Mae’n darparu mynediad diogel ac ymarferol i le parcio oddi ar y stryd. Mae Cynllun Datblygu Lleol Ynys Môn yn nodi, “Bydd disgwyl i gynigion datblygu ymgorffori nifer ddigonol a phriodol o leoedd parcio ar y safle”. Mae Polisi Cenedlaethol wedi mabwysiadu egwyddor o safonau parcio uchaf fel modd o hyrwyddo datblygiad cynaliadwy. Y safon ar gyfer annedd 2 ystafell wely yw 1.5 i 2 lle parcio ar gyfer pob uned. Yn ogystal, mae’r rheol aur yn blaenoriaethu “ansawdd y stryd o flaen popeth arall” a’r nod yw “gwneud y mwyaf o weithgarwch rhwng y stryd a’r tŷ er mwyn cael strydoedd mwy diogel a chyfeillgar”.

2. Mae’n caniatáu i’r Ysgoldy gael ei adnewyddu; aseswyd mai dyma’r dull mwyaf diogel o ran adeiladu. Gofynnwyd am gadarnhau ysgrifenedig fod yr adran Briffyrdd wedi asesu bod yr opsiynau eraill (troi cerbydau ar y stryd neu ddefnyddio meysydd parcio’r Cyngor dros y ffordd) yn fwy diogel ar gyfer traffig adeiladu, gweithwyr safle a phreswylwyr.

3. Mae’n lleihau pwysau parcio ar y stryd trwy ddarparu lleoedd parcio pwrpasol oddi ar y stryd a bydd y baich ar yr ardal leol yn lleihau yn hytrach na’n cynyddu. Nid yn unig fydd hyn yn fanteisiol i breswylwyr, ond mae’n cyd-fynd hefyd â nodau’r Cyngor o geisio gwella’r ddarpariaeth barcio a lleihau tagfeydd.

4. Mae’n cefnogi hyfywedd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12