6 Cyllideb Refeniw Ddrafft 2026/27
PDF 422 KB
Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd -
· Y gyllideb arfaethedig gychwynnol ar gyfer 2026/27 o £207.023m.
· Cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor o 4.8%, ynghyd â 0.3% ar gyfer Ardoll y Gwasanaeth Tân, sy’n gyfanswm o 5.1%, gan olygu fod y gost i eiddo Band D yn £1,792.98.
· Cynnig yn ffurfiol i gadw'r premiwm ar gartrefi gwag ac ail gartrefi yn 100%.
· Bod £1.685m yn cael ei ryddhau o falansau cyffredinol y Cyngor a’r arian wrth gefn a glustnodwyd er mwyn cyd-bwyso cyllideb refeniw 2026/27.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi cyllideb refeniw dros dro y Pwyllgor Gwaith ar gyfer 2026/27 i'w ystyried.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad gan nodi bod y cynigion ar gyfer y gyllideb ddrafft gychwynnol wedi'u trafod yn llawn yng nghyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yr wythnos diwethaf. Y cynnydd mewn cyllid ar gyfer Ynys Môn ar gyfer 2026/27 yw 4.2%. Fodd bynnag, oherwydd y setiau data y mae'r fformiwla dyrannu wedi'i seilio arnynt, mae hwn yn cynrychioli un o'r setliadau isaf o blith y cynghorau yng Nghymru. Mae'n is na'r cynnydd cyfartalog o 4.5% gyda'r uchaf - Cyngor Casnewydd, yn derbyn 6.1%.
Mae'r Cyngor yn parhau i wynebu galw cynyddol, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol i Oedolion a Phlant yn ogystal â phwysau cyflogau sy'n gysylltiedig â'r Cyflog Byw Cenedlaethol a'r Cyflog Byw Gwirioneddol, y ddau ohonynt yn cynyddu ar gyfradd uwch na chwyddiant CPI. Mae'r gyllideb ddrafft yn cynnig cyfanswm cyllideb gychwynnol o £207.023 miliwn, cynnydd o 4.8% yn y Dreth Gyngor ynghyd â 0.3% ar gyfer Ardoll y Gwasanaeth Tân, gan arwain at gynnydd o 5.1%, gan fynd â thâl Band D i £1,792.98. Mae hefyd yn cynnig cadw'r premiwm ail gartrefi a chartrefi gwag ar 100% a rhyddhau £1.685m o falansau cyffredinol y Cyngor a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd i sicrhau cyllideb gytbwys ar gyfer 2026/27. Ni ddisgwylir unrhyw newidiadau sylweddol i'r ffigurau hyn cyn i'r gyllideb derfynol gael ei chyflwyno i'r Cyngor Llawn ar 5 Mawrth 2026.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y setliad terfynol a dderbyniwyd yr wythnos diwethaf £5,962 yn uwch na'r ffigur a ddyfynnwyd yn yr adroddiad a bydd y gyllideb derfynol a gynigir yn cael ei haddasu yn unol â hynny. Nid yw'r cynnydd yn y dreth gyngor yn cynnwys praeseptau Heddlu Gogledd Cymru na Chyngor Tref a Chymuned, a fydd yn cael eu hychwanegu ar wahân.
Rhoddodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adroddiad ar gyfarfod y pwyllgor ar 21 Ionawr 2026 lle bu aelodau'n ystyried yr adroddiad a'r cynigion ar gyfer y gyllideb refeniw ddrafft. Cynhaliodd y pwyllgor drafodaeth lawn a gonest ar gyllid y Cyngor a sut i gydbwyso'r gyllideb a gwahoddwyd cyfraniadau gan aelodau nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor. Rhoddwyd sylw arbennig i gronfeydd wrth gefn y Cyngor, y premiwm ar gartrefi gwag ac ail gartrefi, a'r cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor. Ar ôl ceisio sicrwydd ynghylch nifer o gwestiynau ac ystyried yr ymatebion a ddarparwyd gan yr Aelod Portffolio a'r swyddogion, penderfynodd y pwyllgor gefnogi'r cynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb ddrafft ar gyfer 2026/27 fel y'u cyflwynwyd a'u hargymell i'r Pwyllgor Gwaith.
Diolchodd y Pwyllgor Gwaith i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol am y drafodaeth fanwl yng nghyfarfod yr wythnos diwethaf. Cydnabu aelodau’r pwyllgor gwaith y gwaith sylweddol sy'n gysylltiedig â pharatoi’r gyllideb, gan nodi ei bod yn broses hir sy'n cynnwys nifer o gyfarfodydd a heriau, gan ddechrau ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6