Mater - cyfarfodydd

Council Tax Premium

Cyfarfod: 27/01/2026 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 8)

8 Premiwm y Dreth Gyngor pdf eicon PDF 475 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd -

 

  • Nodi canlyniad yr ymgynghoriad ar Bremiwm y Dreth Gyngor.
  • Cymeradwyo Opsiwn 5 fydd yn weithredol o 1 Ebrill 2027 - gosod lefel y premiwm yn seiliedig ar y cyfnod y mae’r eiddo wedi bod yn wag o’r dyddiad y daeth yn wag ond gan ddechrau â phremiwm o 100%.
  • Bod y Pwyllgor Gwaith yn ystyried sut y dylid dyrannu’r incwm cysylltiedig yn unol â blaenoriaethau strategol y Cyngor.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau yn nodi canlyniad yr ymgynghoriad ar opsiynau mewn perthynas â'r premiwm ar gartrefi gwag hirdymor i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Dechreuodd yr ymgynghoriad ar 29 Medi 2025 a daeth i ben ar 7 Tachwedd 2025 ac roedd yn agored i drigolion Ynys Môn yn ogystal â pherchnogion eiddo gwag hirdymor.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad, gan nodi bod sawl opsiwn wedi'u hystyried fel rhan o'r ymgynghoriad fel y manylir yn yr adroddiad. Derbyniwyd cyfanswm o 449 o ymatebion, o’r rheini roedd 136 wedi'u cwblhau'n rhannol a 313 wedi'u cwblhau'n llawn. Ar ôl ystyried yr ymatebion, yr opsiwn a argymhellir gan y Pwyllgor Gwaith yw Opsiwn 5 – i osod lefel y premiwm yn seiliedig ar faint o amser y mae'r eiddo wedi bod yn wag:

 

·      llai na 5 mlynedd – 100%.

·      rhwng 5 a 6 blynedd – 125%.

·      rhwng 6 a 7 mlynedd – 150%.

·      rhwng 7 ac 8 mlynedd – 175%.

·      rhwng 8 a 9 mlynedd – 200%.

·      rhwng 9 a 10 mlynedd – 250%.

·      dros 10 mlynedd – 300%

 

Byddai hyn yn cael ei weithredu o fis Ebrill 2027. Y nod yw annog perchnogion eiddo gwag hirdymor i ddod â'u heiddo yn ôl i ddefnydd, gan helpu i ddarparu cartrefi diogel a fforddiadwy a chynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn lleol. Tynnodd y Cynghorydd Robin Williams sylw at y ffaith bod eithriadau i'r premiwm ar eiddo gwag hirdymor, sydd wedi'u rhestru yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd Rheolwr Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau y byddai perchnogion eiddo gwag hirdymor yn cael eu hysbysu ynghylch unrhyw newidiadau i'r trefniadau premiwm presennol os cânt eu cymeradwyo. Cadarnhaodd ymhellach fod gan y gwasanaeth ddigon o gapasiti i ddelio ag unrhyw ymholiadau.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y gallai'r 805 eiddo gwag ar yr Ynys helpu i fynd i'r afael ag anghenion tai ar hyn o bryd, o ystyried bod tua 950 o bobl, gan gynnwys teuluoedd, ar restr aros y gofrestr dai. Yr amcan yw dod â'r eiddo hwn yn ôl i ddefnydd trwy werthu neu rentu fel rhan o strategaeth ehangach i leihau nifer y cartrefi gwag a chefnogi amcan Cynllun y Cyngor i sicrhau bod gan bawb le i'w alw'n gartref.

 

Cydnabu aelodau’r pwyllgor gwaith y gallai rhai unigolion fod wedi etifeddu cartrefi mawr y mae angen gwneud gwaith uwchraddio sylweddol arnynt, gan eu gwneud yn anodd eu gwerthu. Fodd bynnag, nodwyd bod y mwyafrif o eiddo gwag hirdymor yn dod o fewn Bandiau Treth y Cyngor A i D, gyda llai na chwarter ym Mand E neu uwch (gweler Tabl 1.3). Nododd yr Aelodau hefyd fod cynlluniau ar gael i helpu i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd, fel Cynllun Prydlesu Cymru ac anogodd unrhyw un sy'n ansicr o'u sefyllfa i esbonio eu hamgylchiadau a gofyn am gyngor gan y Cyngor. Pwysleisiodd bwysigrwydd cyfathrebu'n glir â pherchnogion eiddo gwag i esbonio'r rhesymeg dros newid y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8