9 Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Di-breswyl yn y Gymuned – Ffioedd a Thaliadau 2026/27
PDF 201 KB
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol -
· Codi’r uchafswm a ganiateir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau gofal cartref.
· Y taliadau ar gyfer gwasanaethau Teleofal, fel yr amlinellir yn Nhabl A yr adroddiad:
· Haen 1 – bydd pawb yn talu £81.25 y chwarter
· Haen 2 – bydd pawb yn talu £159.25 y chwarter
· Y taliadau blynyddol ar gyfer gwasanaethau Teleofal, fel yr amlinellir yn Nhabl B yr adroddiad:
· Gwasanaethau a Chynnal a Chadw £147.95
· Gwasanaethau yn unig £95.00
· Costau gosod unwaith ac am byth £59.20
· Cyfradd o £17.85 yr awr ar gyfer Taliadau Uniongyrchol
· Gweithredu tâl o £20.00 yr awr ar gyfer Micro Ofalwyr
· Cadw’r taliad o £10.00 ar gyfer gweinyddu ceisiadau am Fathodynnau Glas a darparu bathodynnau newydd fel yr amlinellwyd
· Cynnydd o 3.8%, i £46.85 y dydd, yn y ffi ar gyfer prynu gwasanaethau gofal dydd mewn cartrefi preswyl annibynnol
· Cynnydd o £1.38 yr awr yn y ffioedd Gofal Cartref, i gyd-fynd â’r cynnydd yn y Cyflog Byw Gwirioneddol
· Y taliadau ar gyfer Prydau Bwyd mewn Gwasanaethau Dydd, fel yr amlinellir yn Nhabl C yr adroddiad:
· Prydau mewn Gwasanaethau Dydd ar gyfer oedolion (ac eithrio pobl ag anableddau dysgu) - £8.10
· Byrbryd ganol dydd mewn Gwasanaethau Dydd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu - £3.45
· Lluniaeth arall (te / coffi / teisen) mewn Gwasanaethau Dydd - £1.95
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i osod y ffioedd a'r taliadau ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl yn y gymunedol ar gyfer 2026/27 i'w ystyried.
Yn absenoldeb Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, cyflwynodd y Cynghorydd Dyfed Wyn Jones, Aelod Portffolio Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yr adroddiad a oedd yn amlinellu'r ffioedd a'r taliadau arfaethedig ar gyfer blwyddyn ariannol 2026/27 yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Nodwyd bod ffioedd am wasanaethau gofal cartref yn cael eu hadolygu'n flynyddol i gyd-fynd ag adolygiad y Llywodraeth Ganolog o lefelau pensiwn a budd-daliadau.
Tynnodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau trwy ei setliad bod y cap wythnosol o £100 ar ofal dibreswyl yn cael ei gadw. Mynegodd y Cynghorydd Alun Roberts, fel cyn-aelod o bortffolio Gwasanaethau Oedolion, siom am y penderfyniad hwn, gan nodi bod pwysau parhaus wedi bod ar Lywodraeth Cymru i godi'r cap fel bod ffioedd yn adlewyrchu'n fwy cywir y gost wirioneddol o ddarparu gwasanaethau.
Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –