Mater - cyfarfodydd

Local Authority Residential Homes for Older People – Setting the Standard Charge for 2026/27

Cyfarfod: 27/01/2026 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 10)

10 Cartrefi'r Awdurdod Lleol i Bobl Hyn - Pennu'r Ffi Safonol 2026/27 pdf eicon PDF 198 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd -

 

·           Mai’r ffi safonol ar gyfer cartrefi preswyl yw £1,026.52 yr wythnos, sef y gost lawn am y gwasanaeth.

·           Oherwydd y cytunwyd yn 2025/26 fod cost lawn y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno dros gyfnod o 3 blynedd, caiff cost lawn y gwasanaeth gofal preswyl dementia ei ostwng i £1,150.99 yr wythnos yn 2026/27.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i osod y tâl safonol ar gyfer cartrefi gofal y Cyngor ar gyfer 2026/27.

 

Yn absenoldeb Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, cyflwynodd y Cynghorydd Dyfed Wyn Jones, Aelod Portffolio Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yr adroddiad, gan nodi bod gosod y tâl blynyddol yn ofyniad o dan Adran 22 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948.

 

Mewn ymateb i gais gan aelod o’r pwyllgor gwaith am ddiweddariad ynghylch y galw am ofal dementia a gallu'r gwasanaeth i ymateb, cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y sefyllfa’n parhau i fod yn heriol. Mae rhestr aros ar gyfer unigolion sydd angen gofal dementia, gyda'r galw yn cynyddu, yn enwedig am ofal nyrsio dementia nad yw'r Cyngor yn ei ddarparu. Mae'r rhain yn feysydd lle mae'n anodd sicrhau lleoliadau. Mae'r gofyniad am ddarparwyr posibl hefyd yn fwy llym o ran lefelau staffio a'r amgylchedd ffisegol. Er y byddai twf yn y ddarpariaeth yn y meysydd hyn yn ddymunol, mae cyflawni hyn yn parhau i fod yn her ar hyn o bryd.

 

Cydnabu'r Pwyllgor Gwaith ymrwymiad ac ymroddiad staff sy'n gofalu am unigolion sy'n byw gyda dementia. 

 

Penderfynwyd -

 

·      Mai’r ffi safonol ar gyfer cartrefi preswyl yw £1,026.52 yr wythnos, sef y gost lawn am y gwasanaeth.

·      Oherwydd y cytunwyd yn 2025/26 fod cost lawn y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno dros gyfnod o 3 blynedd, caiff cost lawn y gwasanaeth gofal preswyl dementia ei ostwng i £1,150.99 yr wythnos yn 2026/27.