11 Cynllun Tuag at Sero Net 2026-2031
PDF 1 MB
Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd mabwysiadu’r Cynllun Strategol Tuag at Sero Net 2026-2031.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a oedd yn cynnwys y Cynllun Strategol Tuag at Sero Net 2026-2031 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd yr adroddiad gan nodi y bydd y Cynllun arfaethedig yn parhau i hyrwyddo nod y Cyngor o ddod yn sefydliad sero net. Mae'n adeiladu ar y cynnydd a'r gwersi o'r Cynllun Strategol Tuag at Sero Net blaenorol 2022-2025 fel yr amlinellwyd yn yr Adroddiad Pwynt Diwedd. Mae'r cynllun newydd yn cydnabod nad yw targed 2030 y Cyngor ar gyfer cyrraedd statws sero net yn ymarferol o fewn yr adnoddau presennol, yr amser sydd ar gael neu raddfa'r datgarboneiddio sydd ei angen. Felly, mae'n cynnig gosod targed sy’n gyson â tharged carbon sero net Cymru erbyn 2050 a osodwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Mae'r cynllun yn amlinellu sut y bydd y Cyngor yn parhau i drawsnewid y fflyd trwy leihau allyriadau carbon, cynyddu’r carbon a amsugnir a chryfhau gwytnwch sefydliadol i hinsawdd sy'n newid. Mae'n nodi chwe maes blaenoriaeth allweddol sy'n cynnwys asedau ac allyriadau tai, allyriadau trafnidiaeth y Cyngor, allyriadau’r gadwyn gyflenwi, defnydd tir, adfer natur a bioamrywiaeth, datblygu sefydliadol, a phrosiectau strategol a gwytnwch hinsawdd.
Tynnodd y Cynghorydd Ieuan Williams sylw at oblygiadau ariannol gweithio tuag at sero net a nododd nad yw cyllid Llywodraeth Cymru wedi'i gynnwys yn y setliad, er bod grantiau ar gael ac y gall y Cyngor gael mynediad at fenthyciadau di-log ar gyfer rhai gweithgareddau. Esboniodd hefyd y trefniadau monitro a llywodraethu ac argymhellodd fod y Rheolwr Newid Hinsawdd yn goruchwylio'r holl gynlluniau gweithredu sero net lefel gwasanaeth a'u cydgrynhoi mewn un cynllun. Cynigiodd ymhellach y dylid penodi aelod etholedig naill ai o'r Pwyllgor Gwaith neu'r Pwyllgor Sgriwtini i'r Grŵp Llywio Sero Net.
Rhoddodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adroddiad ar gyfarfod y pwyllgor ar 21 Ionawr 2026 lle bu aelodau'n ystyried y Cynllun Strategol Tuag at Sero Net 2026-31. Cafodd y pwyllgor ei ddiweddaru ynghylch yr hyn a gyflawnwyd o dan y cynllun blaenorol a blaenoriaethau'r Cyngor o dan y cynllun newydd. Cafodd yr aelodau eu sicrhau hefyd ynglŷn â'r trefniadau monitro a llywodraethu sydd ar waith i sicrhau cynnydd. Roedd y pwyllgor wedi ceisio sicrwydd pellach ar faterion sy'n ymwneud ag asedau a thrafnidiaeth y Cyngor, yn ogystal â'r prif risgiau a'r heriau wrth leihau allyriadau carbon. Ar ôl adolygu'r cynllun, penderfynodd y pwyllgor argymell y Cynllun Strategol Tuag at Sero Net 2026-31 i'r Pwyllgor Gwaith i'w gymeradwyo.
Croesawodd y Pwyllgor Gwaith y cynllun a chydnabu’r cynnydd sylweddol a wnaed o dan y cynllun blaenorol. Roedd yr Aelodau yn cydnabod yr heriau sy'n gysylltiedig â chyflawni sero net ond pwysleisiodd ei bwysigrwydd i les cenedlaethau'r dyfodol a'r amgylchedd ehangach.
Cydnabu'r Prif Weithredwr hefyd y gwaith a wnaed i ddod â phob rhan o'r Cyngor at ei gilydd ar yr agenda sero net. Pwysleisiodd fod hon yn daith hirdymor, yn enwedig o ystyried nifer o ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11