Mater - cyfarfodydd

Visitor Levy

Cyfarfod: 24/02/2026 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 17)

17 Ardoll Ymwelwyr pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblgu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cefnogi’r canlynol –

 

·      Ymgymryd â phroses ymgynghori gyhoeddus mewn perthynas â’r  posibilrwydd o gyflwyno ardoll ymwelwyr ar Ynys Môn (yn unol â chanllawiau’r Cyngor a Llywodraeth Cymru).

·      Bod y broses ymgynghori yn cael ei chynllunio ar y cyd â Chynghorau Gwynedd a Chonwy, ond yn cael ei gweithredu’n annibynnol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch a ddylai Ynys Môn gyflwyno Ardoll Ymwelwyr, i'w ystyried. Darparwyd manylion y gofynion ar gyfer cynnal yr ymgynghoriad yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, yr adroddiad, gan nodi bod Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau ymgynghori â thrigolion, busnesau a sefydliadau lleol eraill cyn penderfynu a ddylid cyflwyno ardoll ymwelwyr. Mae Cynghorau cyfagos Gwynedd a Chonwy yn bwriadu cynnal proses ymgynghori ym mis Mehefin/Gorffennaf 2026 ac mae Ynys Môn o'r farn ei bod yn synhwyrol cydweithio â Gwynedd a Chonwy ar y dull a'r amserlen, er y byddai pob cyngor yn cynnal ei ymgynghoriad ei hun yn annibynnol.

 

Nododd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth, Morwrol ac Eiddo fod yn rhaid i'r ymgynghoriad arfaethedig ddilyn Egwyddorion Gunning a argymhellir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys cynnal ymgynghoriad yn gynnar, darparu digon o wybodaeth ar gyfer ymatebion sy’n seiliedig ar wybodaeth, caniatáu digon o amser – argymhellir 12 wythnos, a sicrhau bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn ystyried yr ymatebion yn iawn. Rhaid i'r penderfyniad terfynol gael ei wneud gan y Cyngor Llawn.

 

Pwysleisiodd y Pwyllgor Gwaith ei fod yn bwriadu gofyn am farn yr holl bartïon a rhanddeiliaid â diddordeb ac anogodd bawb i gyfrannu. Nodwyd hefyd y bydd yn ofynnol i bob darparwr llety ymwelwyr yng Nghymru gofrestru ar y gofrestr genedlaethol p’un ai a yw'r Cyngor yn mabwysiadu'r ardoll ai peidio yn y pen draw.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod y gofrestr genedlaethol yn dal i gael ei datblygu gan Lywodraeth Cymru. Unwaith y bydd rhagor o fanylion ar gael, trefnir sesiwn briffio aelodau i amlinellu sut y bydd y gofrestr yn gweithio ac a fydd gan y Cyngor unrhyw gyfrifoldebau o ran gweithredu neu orfodi.

 

Penderfynwyd cefnogi’r canlynol –

 

·      Ymgymryd â phroses ymgynghori gyhoeddus mewn perthynas â’r  posibilrwydd o gyflwyno ardoll ymwelwyr ar Ynys Môn (yn unol â chanllawiau’r Cyngor a Llywodraeth Cymru).

·      Bod y broses ymgynghori yn cael ei chynllunio ar y cyd â Chynghorau Gwynedd a Chonwy, ond yn cael ei gweithredu’n annibynnol.