5 Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith
PDF 262 KB
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru ar gyfer y cyfnod rhwng Mawrth a Hydref 2026, gyda’r newidiadau y cyfeiriwyd atynt yn y cyfarfod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth a oedd yn cynnwys Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Mawrth a Hydref, 2026 i'w gadarnhau.
Rhoddodd y Pennaeth Democratiaeth y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Gwaith ar y newidiadau canlynol i'r Blaenraglen Waith –
· Datblygiad Gogledd Ynys Môn – cytunwyd ar fenter ar y cyd â Llywodraeth Cymru fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod mis Mai 2026.
· Mae adroddiadau perfformiad a monitro cyllideb Chwarter 1 2026/27 yn eitemau newydd ar gyfer cyfarfod Medi 2026.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru ar gyfer y cyfnod rhwng Mawrth a Hydref 2026, gyda’r newidiadau y cyfeiriwyd atynt yn y cyfarfod.