Mater - cyfarfodydd

Capital Budget Monitoring - Quarter 3, 2025/26

Cyfarfod: 24/02/2026 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 7)

7 Monitro'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 3, 2025/26 pdf eicon PDF 650 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd -

 

·      Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2025/26 yn ystod Chwarter 3.

·      Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol gwerth £7.276m i’r rhaglen gyfalaf a newidiadau mewn cyllid, yn unol ag Atodiad C, fydd yn rhoi cyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £66.945m ar gyfer 2025/26.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y gyllideb gyfalaf ar ddiwedd Chwarter 3 2025/26 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard adroddiad monitro cyllideb gyfalaf Chwarter 3 gan nodi bod y gyllideb gyfalaf yn parhau i fod yn dynn ac nad oes llawer o sgôp i wario yn ôl disgresiwn y tu hwnt i gynnal asedau cyfredol.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2025/26 yn dod i gyfanswm o £66.945m yn dilyn llithriad a gymeradwywyd, cynlluniau ychwanegol ac addasiadau ariannol. Erbyn diwedd mis Rhagfyr, 2025, roedd £36.673m (55%) o'r gyllideb flynyddol wedi'i wario neu ei ymrwymo, gyda'r CRT wedi gwario 63% o'i gyllideb flynyddol. Rhagwelir tanwariant diwedd blwyddyn o £9.849m ar raglen gyfalaf a chyllideb 2025/26 gyda hyn yn llithriad posibl i raglen gyfalaf 2026/27. Bydd y cyllid cysylltiedig hefyd yn llithro i 2026/27. Amlinellir prif feysydd y tanwariant a ragwelir a'r rhesymau drostynt yn adran 4 o'r adroddiad. Manylir ar gynnydd ar y prif brosiectau a ariennir gan grant yn adran 3 o'r adroddiad.

 

Tynnodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard sylw at bwysigrwydd prosiectau cyfalaf a ariennir gan grant a chyfeiriodd at ymweliad a wnaed y mis blaenorol i weld cynlluniau a ariennir gan Ffyniant Bro yng Nghaergybi. Nododd yr effaith gadarnhaol y bydd y gwaith uwchraddio yma'n ei chael ar stryd fawr y dref a diolchodd i dîm Gwasanaeth Datblygu Economaidd ac asiantaethau partner am eu gwaith cydweithredol, gan bwysleisio'r manteision sylweddol y mae prosiectau a ariennir gan grantiau o'r fath yn eu cynnig.

 

Tynnodd y Prif Weithredwr sylw at ddibyniaeth y Cyngor ar gyllid grant ar gyfer prosiectau cyfalaf, gan nodi bod y broses ymgeisio yn aml yn gystadleuol ac yn gofyn am gapasiti, arbenigedd a mewnbwn sylweddol. Mae'r grantiau hyn yn parhau i fod yn hanfodol i'r Cyngor a'r ynys ac mae'r rhaglen Ffyniant Bro yn dangos gwerth gweithio mewn partneriaeth. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa grantiau yn newid eto gyda chyfnod o ansicrwydd o'n blaenau. Mae diogelu'r arbenigedd sy'n gallu trosglwyddo rhwng rhaglenni wrth i gyfleoedd godi yn hanfodol a bydd yn ffocws yn y misoedd nesaf.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol at brosiectau a ariennir gan y CRT gan gynnwys datblygiadau tai newydd, adnewyddu tai presennol a gwaith datgarboneiddio sydd oll yn cefnogi contractwyr lleol a'r economi lleol ehangach. Un prosiect o bwys o fewn y rhaglen yw'r cyfleuster gofal ychwanegol newydd ym Mhorthaethwy.

 

Penderfynwyd -

 

·      Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2025/26 yn ystod Chwarter 3.

·      Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol gwerth £7.276m i’r rhaglen gyfalaf a newidiadau mewn cyllid, yn unol ag Atodiad C, fydd yn rhoi cyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £66.945m ar gyfer 2025/26.