Mater - cyfarfodydd

Housing Revenue Account Budget Monitoring Report - Quarter 3, 2025/26

Cyfarfod: 24/02/2026 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 8)

8 Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 3, 2025/26 pdf eicon PDF 325 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi’r canlynol -

 

·      Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 3 2025/26.

·      Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2025/26.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y CRT ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Rhagfyr 2025 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd Yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, adroddiad monitro cyllideb CRT Chwarter 3.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ar y sefyllfa gyffredinol gan nodi bod y CRT yn dangos bod y refeniw £715k yn well na’r gyllideb a broffiliwyd yn Chwarter 3 2025/26. Y tanwariant refeniw a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn yw £546k, a rhagwelir y bydd gwariant cyfalaf yn dangos tanwariant o £864k. Mae’r diffyg a ragwelir o gyfuno refeniw a chyfalaf bellach yn £8,436k sydd £1,403k yn well na'r disgwyl ac yn lleihau swm y benthyciadau allanol sydd ei angen. Erbyn Chwarter 3, mae cyfanswm o 29 o unedau wedi'u hychwanegu at y stoc dai, gan gynnwys tai sydd newydd eu datblygu yn ogystal ag eiddo presennol a gafaelwyd ac a adnewyddwyd gan y CRT. Mae datblygiadau a chaffaeliadau pellach yn mynd rhagddynt fel y dangosir yn Atodiad C i'r adroddiad.

 

Roedd balans agoriadol cronfa wrth gefn y CRT yn £7.976m. Roedd y gyllideb yn caniatáu defnyddio £6,820k o'r balans hwn, gan adael yr isafswm lefel balans wrth gefn o £1,155k fel y nodir yng Nghynllun Busnes y CRT. Ar ôl addasu’r gyllideb gyfalaf a grantiau cyfalaf, y diffyg refeniw / cyfalaf net a gyllidebwyd ar gyfer y flwyddyn yw £8,436k. Bydd hyn yn cael ei gyllido o gronfa wrth gefn y CRT a £1,616k mewn benthyciadau allanol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Gary Pritchard at yr heriau sy'n wynebu'r CRT a godwyd yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yr wythnos diwethaf. Er bod y Cyngor yn falch o gynnal rhenti ar lefel is na'r hyn y mae Ymddiriedolaeth Trussell yn ei argymell fel rhent teg, mae’r ffaith nad yw’n gallu codi rhenti i lefelau cymdeithasau tai yn rhoi pwysau ar y CRT, yn enwedig gan fod disgwyl iddo hefyd ariannu gwelliannau i sicrhau bod y stoc dai yn parhau i fodloni Safonau Ansawdd Tai Cymru.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol fod cyflawni uchelgeisiau'r Cyngor ar gyfer adeiladu, pryniant a datblygiadau newydd ochr yn ochr â buddsoddi yn y stoc bresennol a bodloni gofynion SATC yn parhau i fod yn her sylweddol, yn enwedig gan nad yw incwm refeniw yn cadw i fyny â chostau cynyddol. Mae'r Cyngor yn ddiolchgar am gyllid grant ac yn awyddus i sicrhau bod rhenti yn parhau i fod yn fforddiadwy. Serch hynny, bydd angen gwneud dewisiadau - naill ai rhaid cynyddu incwm grantiau, rhaid llacio gofynion SATC, neu rhaid i'r Cyngor adolygu ei uchelgeisiau. Mae benthyca yn opsiwn arall, ond nid yw'r Cyngor eisiau i'r CRT fod mewn gormod o ddyled.

 

Penderfynwyd nodi’r canlynol –

 

·      Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 3 2025/26.

·      Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2025/26.