Mater - cyfarfodydd

Treasury Management Strategy Statement

Cyfarfod: 24/02/2026 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 9)

9 Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2026/27 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi’r Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys 2026/2027 ac i drosglwyddo’r datganiad i’r Cyngor Llawn heb unrhyw sylw pellach.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2026/27 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Mae'r datganiad yn nodi sut y bydd y Cyngor yn rheoli ei fenthyca, ei fuddsoddiadau a'i lif arian yn y flwyddyn i sicrhau ei fod yn unol â Chodau Darbodus a Rheoli Trysorlys CIPFA.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, yr adroddiad Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2026/27.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 drosolwg o'r adroddiad gan nodi bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi craffu arno a heb gynnig unrhyw newidiadau. Nid yw'r strategaeth yn cynnwys unrhyw newidiadau sylweddol o fersiwn y flwyddyn flaenorol, ond mae'n cyd-fynd â'r Strategaeth Gyfalaf ac yn nodi tri senario gwariant cyfalaf – sylfaenol, uchelgeisiol a delfrydol, ynghyd â goblygiadau benthyca pob un, fel y dangosir yn Nhabl 6 yr adroddiad. Mae Tablau 7a a 7B yn amlinellu'r goblygiadau refeniw i'r Gronfa Gyffredinol a'r CRT yn y drefn honno gyda chostau refeniw yn sylweddol uwch o dan y senario delfrydol.

 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi defnyddio benthyca mewnol, ond mae’r ffaith bod cronfeydd wrth gefn yn gostwng yn golygu y bydd angen benthyca allanol erbyn diwedd y flwyddyn neu ddechrau'r flwyddyn nesaf. Ni fydd y Cyngor yn benthyca mwy nag y mae ei angen, na chyn bod angen gwneud hynny, a hynny er mwyn elwa o fuddsoddi’r symiau ychwanegol a fenthycir. Bydd hefyd yn osgoi aildrefnu benthyciadau cyfredol, gan fod cyfraddau ad-dalu dyled yn gynnar y PWLB yn parhau i fod yn uchel ac yn fwy nag unrhyw arbedion posibl. Yn hytrach, bydd y Cyngor yn ceisio amseru benthyca allanol i gyd-fynd â gostyngiadau mewn cyfraddau llog.

 

Mae strategaeth fuddsoddi'r Cyngor yn parhau i flaenoriaethu sicrhau diogelwch a hylifedd adneuon dros elw, gan ddefnyddio gwrthbartïon sy’n dangos teilyngdod i gael credyd yn unig a sicrhau bod gofynion llif arian o ddydd i ddydd yn cael eu bodloni. Mae'r strategaeth hefyd yn nodi'r trefniadau llywodraethu ac adrodd.

 

Darperir y dangosyddion Darbodus a'r Trysorlys yn Atodiad 10 i'r adroddiad. Mae'r rhain yn cynnwys fforddiadwyedd, bod yn ddarbodus a gosod cyfyngiadau ar gyfer gwariant cyfalaf, dyledion allanol, y meincnod rhwymedigaethau a strwythur aeddfedu benthyciadau.

 

Penderfynwyd nodi’r Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys 2026/2027 ac i drosglwyddo’r datganiad i’r Cyngor Llawn heb unrhyw sylw pellach.