10 Ffioedd Cartrefi Gofal y Sector Annibynnol ar gyfer 2026/27
PDF 154 KB
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd -
· Cymeradwyo’r argymhelliad i gynyddu lefel y ffioedd fel a ganlyn:-
· Gofal Preswyl (Pobl Hŷn) - £874.18 yr wythnos
· Preswyl (Dementia) - £976.89 yr wythnos
· Gofal Nyrsio (Elfen Gofal Cymdeithasol) - £952.07 yr wythnos (heb gynnwys gofal nyrsio di-dâl gan yr awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd)
· Nyrsio (Dementia) (Elfen Gofal Cymdeithasol) - £1,125.03 yr wythnos (heb gynnwys gofal nyrsio di-dâl gan yr awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd).
· Awdurdodi’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gwasanaeth Cyllid i ymateb i unrhyw geisiadau gan gartrefi unigol i ymchwilio i’w cyfrifon penodol a defnyddio’r ymarfer fel sail i ystyried unrhyw eithriadau i’r ffioedd a gytunwyd. Bydd rhaid i’r Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion gytuno ar unrhyw eithriadau o fewn y cyllidebau presennol.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a oedd yn nodi ffioedd arfaethedig cartrefi gofal y sector annibynnol ar gyfer 2026/27 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd y Cynghorydd Neville Evans, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion yr adroddiad gan nodi ei bod yn ofynnol i'r Cyngor adolygu ffioedd cartrefi gofal y sector annibynnol yn flynyddol i gyd-fynd â newidiadau Llywodraeth Ganolog i lefelau budd-daliadau a phensiynau. Wrth osod lefelau ffioedd ar gyfer cartrefi gofal y sector annibynnol, rhaid ystyried amryw o ffactorau gan gynnwys amgylchiadau lleol, y pwysau o ran galw a’r ddarpariaeth sydd ar gael.
Mae'r Pwyllgor Gwaith yn cynnig cynnydd o 5% mewn ffioedd cartrefi gofal y sector annibynnol ar gyfer 2026/27, gan gynnwys lleoliadau preswyl, preswyl dementia, nyrsio a nyrsio dementia. Mae'r cynnydd hwn yn fwriadol uwch na chynnydd chwyddiant a nodir gan y fethodoleg ranbarthol (Tabl 1 yr adroddiad) a'r cynnydd i ddarpariaeth fewnol. Mae'r cynnydd uwch yn adlewyrchu'r pwysau ariannol lleol ar ddarparwyr a'r angen i gynnal digon o gapasiti o ran cartrefi gofal. Mae'r ffioedd wythnosol a argymhellir wedi'u hamlinellu yn Nhabl 2 o'r adroddiad ac nid ydynt yn cynnwys cyfraniadau gofal nyrsio am ddim. Maent yn berthnasol i gartrefi sy'n derbyn cyfradd uwch na chyfraddau safonol y Cyngor. Gofynnir i gartrefi sydd eisoes yn derbyn uwchlaw'r cyfraddau safonol rannu gwybodaeth ariannol a fydd yn cael ei hystyried wrth benderfynu ar unrhyw gynnydd ariannol. Bydd eithriadau i'r lefelau ffioedd yn cael eu hystyried pan fo tystiolaeth glir yn dangos nad yw'r ffioedd a osodwyd yn ddigonol mewn unrhyw achos unigol. Cynigir bod penderfyniadau o'r fath yn cael eu dirprwyo i'r Swyddog Adran 151, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ac Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion.
Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod ffioedd Ynys Môn yn gystadleuol yn y rhanbarth ac yn parhau i fod ychydig yn is na chyfartaledd Cymru.
Penderfynwyd –
· Cymeradwyo’r argymhelliad i gynyddu lefel y ffioedd fel a ganlyn:-
· Awdurdodi’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gwasanaeth Cyllid i ymateb i unrhyw geisiadau gan gartrefi unigol i ymchwilio i’w cyfrifon penodol a defnyddio’r ymarfer fel sail i ystyried unrhyw eithriadau i’r ffioedd a gytunwyd. Bydd rhaid i’r Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion gytuno ar unrhyw eithriadau o fewn y cyllidebau presennol.