12 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2026/27
PDF 317 KB
Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd -
· Argymell bod y Cyngor Llawn yn derbyn y gyllideb refeniw ddrafft arfaethedig, a chynnydd o 5.1% yn y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo Band D, gan olygu fod y gost yn 2026/27 yn £1,792.98, gan nodi y cyflwynir cynnig ffurfiol, fydd yn cynnwys praeseptau Heddlu Gogledd Cymru a Chynghorau Tref / Cymuned, i’r Cyngor ar 5 Mawrth 2026.
· Nodi argymhelliad y Swyddog Adran 151 y dylai’r Cyngor gadw o leiaf £10.4m o falansau cyffredinol.
· Nodi sylwadau’r Swyddog Adran 151 ynglŷn â chadernid yr amcangyfrifon, fel y nodir yn Adran 5 o Atodiad 1 yr adroddiad.
· Awdurdodi’r Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol cyn cyflwyno’r cynigion terfynol i’r Cyngor.
· Cytuno y gellir defnyddio cyllid o’r gyllideb wrth gefn gyffredinol i gwrdd ag unrhyw bwysau annisgwyl ar gyllidebau seiliedig ar alw yn ystod y flwyddyn ariannol.
· Gofyn i’r Cyngor awdurdodi’r Pwyllgor Gwaith i ryddhau hyd at £250k o’r balansau cyffredinol os bydd y gyllideb wrth gefn gyffredinol yn cael ei hymrwymo’n llawn yn ystod y flwyddyn.
· Dirprwyo i’r Swyddog Adran 151 yr hawl i ryddhau cyllid o hyd at £50k o’r gyllideb wrth gefn gyffredinol ar gyfer unrhyw eitem unigol. Ni ddylid caniatáu unrhyw eitem gwerth dros £50k oni bai bod y Pwyllgor Gwaith wedi rhoi ei ganiatâd ymlaen llaw.
· Cadarnhau bod lefel Premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer ail gartrefi a thai gwag yn aros ar 100%.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys cynigion manwl cyllideb refeniw 2026/27 i'w adolygu yn derfynol gan y Pwyllgor Gwaith. Gofynnwyd i'r Pwyllgor Gwaith gytuno ar y gyllideb refeniw ar gyfer 2026/27, lefel y Dreth Gyngor, y defnydd o gronfeydd wrth gefn a'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) wedi'i ddiweddaru cyn ei gymeradwyo'n derfynol gan y Cyngor Llawn ar 5 Mawrth 2026.
Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, yr adroddiad gan nodi bod cynigion y gyllideb wedi’u trafod yn helaeth a’u herio, a bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi craffu arno mewn dau gyfarfod ar wahân ym mis Ionawr a Chwefror 2026. Mae'r cynigion yn cynnwys cyllideb refeniw net o £207.029 miliwn, cynnydd o 5.1% yn y Dreth Gyngor gan olygu fod y tâl ar gyfer eiddo Band D yn codi i £1,792.98, defnyddio £1.685 miliwn o gronfeydd wrth gefn i helpu i gydbwyso'r gyllideb a pharhau i godi premiwm y Dreth Gyngor o 100% ar ail gartrefi a chartrefi gwag. Mae'r cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor yn debyg i gynnydd cenedlaethol ac yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf, Ynys Môn fydd â'r cyfraddau Treth Gyngor isaf yng Ngogledd Cymru o hyd a bydd ei gynnydd ymhlith yr isaf yn rhanbarthol.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod cynigion y gyllideb derfynol yn aros yr un fath â'r rhai a gyflwynwyd yn wreiddiol. Mae'r risgiau i'r gyllideb wedi'u hamlinellu yn adran 5 o'r adroddiad. Y prif risg yw ansicrwydd ynghylch dyfarniadau cyflog yn y dyfodol. Fel Swyddog Adran 151 cadarnhaodd, ar ôl ystyried yr holl risgiau a nodwyd a'r camau lliniaru, ei fod yn credu bod y gyllideb yn gadarn a bod modd ei chyflawni. Nododd hefyd fod lefel iach balansau cyffredinol a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd gan y Cyngor yn ddigonol i liniaru’r risgiau a nodwyd.
Mae'r adroddiad hefyd yn diweddaru'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig. Yn seiliedig ar y rhagdybiaethau yn y CATC a allai newid wrth i 2027/28 agosáu, bydd angen arbedion pellach yn 2027/28 ac yn 2028/29. Mae'r defnydd o gronfeydd wrth gefn eto i gydbwyso'r gyllideb ar gyfer 2026/27 yn creu bwlch cyllido uniongyrchol yn 2027/28. Efallai y bydd / na fydd y Cyngor yn gallu mynd i'r afael â'r bwlch hwn trwy gronfeydd wrth gefn unwaith eto; fel arall bydd angen gostyngiadau yn y gyllideb a/neu gynnydd yn y Dreth Gyngor oni bai bod cyllid yn gwella. Ar hyn o bryd mae'r CATC yn tybio cynnydd yn y Dreth Gyngor o 5% yn 2027/28 a 3% yn 2028/29. Bydd CATC wedi'i ddiweddaru yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ym mis Medi, 2026. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi bod y rhagolygon ariannol tymor canolig yn parhau i fod yn heriol ac efallai y bydd y Cyngor yn wynebu'r angen i leihau costau, gan gynnwys trwy ostyngiad posibl mewn gwasanaethau.
Rhoddodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, adroddiad ar gyfarfod y pwyllgor ar 18 Chwefror 2026 lle ystyriodd aelodau'r adroddiad a'r cynigion terfynol ar ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12