13 Cyllideb Gyfalaf 2026/27
PDF 333 KB
Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd argymell y rhaglen gyfalaf ganlynol i’r Cyngor llawn ar gyfer 2026/27:-
£’000
Cynlluniau a Ddygwyd Ymlaen o 2025/26
(Cronfa Gyffredinol) 8,394
Adnewyddu Asedau / Prynu Asedau Newydd 6,937
Seilwaith Gwastraff 3,806
Pier a Phontynau Porthaethwy 225
Gwaith Adnewyddu Plas Arthur Cam 2 1,650
Balchder Bro 1,500
Cyfrif Refeniw Tai 31,572
Cyfanswm Rhaglen Gyfalaf a argymhellir 2026/27 54,084
Ariennir Gan:
Grant Cyfalaf Cyffredinol 2,761
Benthyca â Chymorth Cyffredinol 5,047
Cymunedau Dysgu
Benthyca heb Gymorth 0,000
Cronfa Wrth Gefn Derbyniadau Cyfalaf 271
Cronfeydd Wrth Gefn Clustnodedig 3,452
Grantiau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru 10,044
Benthyca Digymorth
(Cronfa Gyffredinol) 937
Gwarged Cyfrif Refeniw’r CRT 5,418
Grantiau Allanol y CRT 17,291
Benthyca heb Gymorth y CRT 8,863
Cyfanswm Cyllid Cyfalaf 2026/27 54,084
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys y gyllideb gyfalaf a'r rhaglen arfaethedig ar gyfer 2026/27 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, yr adroddiad gan nodi bod y sgôp ar gyfer gwariant o fewn y gyllideb gyfalaf yn gyfyngedig ac er bod benthyca yn bosibl, mae ganddo oblygiadau o ran cost i'r gyllideb refeniw.
Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y gyllideb gyfalaf yn amlinellu strategaeth y Cyngor ar gyfer gwariant cyfalaf, gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i adnewyddu asedau presennol a phrynu asedau newydd y Cyngor (£6.937 miliwn). Mae prif ffynonellau cyllido'r Cyngor ar gyfer gwariant cyfalaf yn cynnwys grant cyfalaf cyffredinol Llywodraeth Cymru, benthyca â chymorth, derbyniadau cyfalaf, a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd. Mae benthyca heb gymorth yn parhau i fod yn opsiwn, fodd bynnag, mewn achosion o'r fath byddai'r holl ad-daliadau am fenthyciadau a chostau llog yn dod yn gyfan gwbl o gyllideb refeniw y Cyngor ac mae cyfyngiadau ar fenthyca yn berthnasol i sicrhau nad yw'r Cyngor yn gorymestyn ei hun. Disgwylir y bydd y Cyngor yn derbyn grantiau ychwanegol yn ystod y flwyddyn fel yn y blynyddoedd blaenorol, a bydd y rhain yn cael eu hychwanegu at y gyllideb. Mae Atodiad 2 i'r adroddiad yn rhoi dadansoddiad manwl o'r gyllideb gyfalaf arfaethedig derfynol ar gyfer 2026/27, gan ddangos pob cynllun, ei gostau a sut y bydd yn cael ei ariannu. Mae rhai cynlluniau gwerth cyfanswm o £8.934m hefyd yn cael eu dwyn ymlaen o 2025/26 ond gall y ffigur hwn gynyddu wrth i gyfrifon y Cyngor gael eu cwblhau ym mis Mehefin a Gorffennaf 2026.
Cyfeiriodd y Swyddog Adran 151 hefyd at feysydd buddsoddi eraill o fewn y gyllideb gyfalaf gan gynnwys gwelliannau i isadeiledd gwastraff y Cyngor (£3.806m), a ariennir yn bennaf drwy incwm eEPR. Mae prosiectau mawr eraill yn cynnwys gwelliannau i Bier a Phontynau Porthaethwy (£225k), gwaith adnewyddu Canolfan Hamdden Plas Arthur – cam 2 (£1.65m) a Phrosiectau Cronfa Balchder Bro (£1.5m) sy'n anelu at sicrhau gwelliannau gweladwy tymor byr i lefydd a mannau gwerthfawr cymunedol erbyn mis Mawrth 2027 ac sy'n cael eu harwain gan y gymuned. Mae cyllideb gyfalaf y CRT wedi'i neilltuo ar gyfer tai ac mae'n canolbwyntio ar fuddsoddiad parhaus yn y stoc bresennol i sicrhau y cydymffurfir â SATC (£15.71m), cyfleuster gofal a phreswyl ychwanegol newydd ym Mhorthaethwy (£14.001m) a datblygiad tai newydd (£1.498m).
Rhoddodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, adroddiad ar gyfarfod y pwyllgor ar 18 Chwefror 2026, lle ystyriodd aelodau'r adroddiad a'r cynigion terfynol ar y gyllideb gyfalaf ddrafft. Adolygodd y pwyllgor y ddogfen a gyflwynwyd ac ymatebion Aelodau a Swyddogion Portffolio i'r materion a godwyd. Fe wnaethant hefyd ystyried sylwadau Cadeirydd y Panel Sgriwtini Adnoddau. Trafododd yr aelodau raglen gyfalaf y CRT a'i chyllid, gan nodi'r pwysau ar y CRT a'r angen i sicrhau bod cydbwysedd rhwng gwneud y mwyaf o incwm rhent a chadw rhenti’n fforddiadwy. Ar ôl craffu ar y cynigion ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13