Mater - cyfarfodydd

Alcohol and Regulated Entertainment Policy Statement

Cyfarfod: 24/02/2026 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 18)

18 Datganiad Polisi Trwyddedu 2026 - 2031 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.   

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cefnogi cyflwyno’r datganiad Polisi Trwyddedu 2026 - 2931 drafft i’r Cyngor Llawn er mwyn ei fabwysiadu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys Datganiad Polisi Trwyddedu 2026-2031, i'w ystyried. Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i'r polisi i'w gyflwyno i'r Cyngor Llawn.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, yr adroddiad gan nodi ei bod yn ofynnol i Gyngor Ynys Môn, fel yr Awdurdod Trwyddedu, adolygu, ymgynghori a chyhoeddi Datganiad Polisi Trwyddedu bob pum mlynedd. Mae'r polisi yn nodi sut y bydd yr Awdurdod yn arfer ei swyddogaethau o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, gan gynnwys sut y bydd yn gwneud penderfyniadau ynghylch trwyddedau ar gyfer gwerthu a chyflenwi alcohol, adloniant trwyddedig a lluniaeth hwyr y nos. Rhaid i'r awdurdod trwyddedu gyflawni ei swyddogaethau gyda'r bwriad o hyrwyddo'r pedwar amcan trwyddedu statudol ac mae'r polisi wedi'i seilio ar y rhain – atal troseddu ac anhrefn, sicrhau diogelwch y cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus ac amddiffyn plant rhag niwed.

 

Cyhoeddwyd polisi drafft i ymgynghori arno rhwng 14 Tachwedd 2025 a 5 Ionawr 2026. Derbyniwyd ymatebion gan BIPBC, Iechyd y Cyhoedd, Iechyd yr Amgylchedd ac un deiliad trwydded. Mae'r adborth yn cyfrannu at gyfres o welliannau wedi'u targedu i gryfhau adrannau penodol o'r polisi.

 

Penderfynwyd cefnogi cyflwyno’r datganiad Polisi Trwyddedu 2026 - 2931 drafft i’r Cyngor Llawn er mwyn ei fabwysiadu.