Mater - cyfarfodydd

Amendment to the Constitution - Final approval of the Council's Annual Governance Statement

Cyfarfod: 24/02/2026 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 15)

15 Newid i'r Cyfansoddiad - Cymeradwyaeth terfynol i Ddatganiad Llywodraethiant Blynyddol y Cyngor pdf eicon PDF 189 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn cymeradwyo’r newid arfaethedig i’r Cyfansoddiad er mwyn rhoi’r hawl i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor, yn hytrach na’r Cyngor, gymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor yn derfynol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a oedd yn gofyn am farn y Pwyllgor Gwaith ar y newid arfaethedig i’r Cyfansoddiad er mwyn rhoi’r hawl terfynol i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor, yn hytrach na’r Cyngor, gymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor, i’w ystyried.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, yr adroddiad gan nodi ei fod yn cynnig newid ymarferol i'r Cyfansoddiad fel bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn hytrach na'r Cyngor Llawn, yn rhoi cymeradwyaeth derfynol i'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro y rhesymau dros y newid arfaethedig, sy'n cynnwys amserlen archwilio fyrrach a osodwyd gan Archwilio Cymru ar gyfer 2025/26. O dan yr amserlen ddiwygiedig, rhaid i'r cyfrifon gael eu hawdurdodi erbyn 30 Medi 2026, mis yn gynharach na'r flwyddyn flaenorol. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru hefyd yn nodi y dylai'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol gael ei gyhoeddi ar yr un pryd ag y llofnodir y cyfrifon heb eu harchwilio, sy’n golygu bod yr amser yn gyfyngedig i adolygu'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar ôl iddo gael ei adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Os bydd yn dal i gael cymeradwyaeth gan y Cyngor, byddai angen aildrefnu cyfarfod y Cyngor ym mis Medi 2026 a chynnal cyfarfod arbennig.

 

Felly, ystyrir bod dirprwyo cymeradwyaeth i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn broses fwy effeithlon ac mae'n sicrhau bod y broses o gymeradwyo’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn cyd-fynd â'r broses gymeradwyo ar gyfer cyfrifon blynyddol y Cyngor sydd eisoes wedi'i ddirprwyo i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Ni fyddai'r newid arfaethedig yn anfantais i gynghorwyr na'r cyhoedd gan y byddai adroddiadau yn parhau i fod ar gael yn y ffordd arferol, a byddai'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft yn cael ei ddosbarthu i'r holl aelodau ym mis Mehefin i gael sylwadau arno.

 

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn cymeradwyo’r newid arfaethedig i’r Cyfansoddiad er mwyn rhoi’r hawl i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor, yn hytrach na’r Cyngor, gymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor yn derfynol.