Mater - cyfarfodydd

Beaumaris Car Park

Cyfarfod: 24/02/2026 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 19)

19 Maes Parcio Ger y Castell, Biwmares pdf eicon PDF 619 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd gwrthod y cais a gyflwynwyd mewn cynllun busnes gan Gyngor Tref Biwmares i drosglwyddo Maes Parcio’r Castell, Biwmares i’r Cyngor Tref, a chynnig prydles newydd iddynt hyd at 31 Mawrth 2026 yn seiliedig ar yr un amodau â’r brydles wreiddiol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo mewn ymateb i gais mewn cynllun busnes gan Gyngor Tref Biwmares (sydd wedi’i gynnwys fel Atodiad 1 i'r adroddiad) i gymryd perchnogaeth o Faes Parcio'r Castell, Biwmares, i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard wrth y cyfarfod ei fod wedi derbyn cais gan Gyngor Tref Biwmares i ohirio'r penderfyniad heddiw. Fel Arweinydd a rhywun sy’n byw ym Miwmares, roedd o'r farn bod y Cyngor Tref eisoes wedi cael cyfle teg i gyflwyno achos busnes, gan nodi bod y brydles ar y maes parcio wedi dod i ben ym mis Gorffennaf 2025. Nid oedd yn credu bod unrhyw sail bellach dros ohirio a chadarnhaodd y byddai'r mater felly yn cael ei benderfynu yn y cyfarfod heddiw.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd yr adroddiad, gan nodi bod y Cyngor wedi trosglwyddo Carchar a Llys Biwmares i'r Cyngor Tref ym mis Gorffennaf 2020, yn dilyn asesiad yn seiliedig ar farn ymgynghorydd bod angen tua £600k o fuddsoddiad ar yr adeiladau. Er mwyn cefnogi'r Cyngor Tref i dalu'r costau hyn, rhoddwyd prydles 5 mlynedd ar Faes Parcio'r Castell rhwng 15 Gorffennaf 2020 a 15 Gorffennaf 2025 gyda'r bwriad bod yr incwm (tua £100k y flwyddyn) yn cyfrannu at y costau uwchraddio. Ers hynny, cafwyd cais gan y Cyngor Tref i Faes Parcio'r Castell gael ei drosglwyddo i'w berchnogaeth am byth heb unrhyw gost.  Mae'r cais wedi'i ystyried a'r argymhelliad yw ei wrthod. Yn hytrach, cynigir ymestyn y brydles tan 31 Mawrth 2026 ar yr un telerau ag o'r blaen i gydnabod yr incwm a gollwyd yn ystod pandemig Covid 19. Mae'r Pwyllgor Gwaith yn argymell gwrthod am y rhesymau canlynol –

 

·      Mae adran 123 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn gwahardd cynghorau rhag gwaredu eiddo (ac eithrio drwy denantiaeth fer) am lai na’r gwerth gorau y gellir ei sicrhau yn rhesymol (heb ganiatâd y Gweinidog). Mae'r maes parcio yn werth rhwng £900k a £1.2m, yn seiliedig ar yr elw gros cyfartalog a nodir yng nghynllun busnes Cyngor Tref Biwmares.

·      Byddai trosglwyddo ased o'r fath i'r gymuned am ddim neu am lai na’r pris gorau sy’n bosibl yn rhesymol yn gosod cynsail newydd trwy wyro o bolisi'r Cyngor ar gyfer gwaredu eiddo. Byddai hefyd yn tanseilio polisi'r Cyngor ar waredu asedau, yn debygol o annog ceisiadau tebyg gan gymunedau eraill ar sail y cynsail newydd, a gallai o bosibl leihau derbyniadau cyfalaf yn y dyfodol o safleoedd tebyg.

·      Mae cynllun busnes y Cyngor Tref yn awgrymu mai prif bwrpas y cais yw cynnal y praesept ar lefel isel. Nid yw'n nodi bod incwm o'r maes parcio yn cael ei fuddsoddi yn y Carchar a'r Llys, sef y bwriad gwreiddiol y tu ôl i roi'r brydles. Praesept presennol Cyngor Tref Biwmares yw £39k sy'n sylweddol is na phraesept pob un o'r pedwar cyngor tref arall.

 

Pwysleisiodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo y byddai'r maes parcio yn parhau i fod ar gael i'r dref  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 19