Mater - cyfarfodydd

Departure Applications

Cyfarfod: 04/02/2026 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 10)

10 Ceisiadau'n gwyro pdf eicon PDF 912 KB

10.1 – VAR/2025/6 – Bryn Brochan, Talwrn

VAR/2025/6

 

10.2 – VAR/2025/53 – Dyfria, Ty Croes

VAR/2025/53

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 10.1 VAR/2025/6 – Cais o dan Adran 73A i amrywio amod (13) (Cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod 23C325 (newid defnydd yr adeilad allanol i annedd, addasu ac ehangu ynghyd a chodi modurdy a storfa goed) er mwyn cynyddu maint a diwygio dyluniad yr estyniad i'r cefn yn Bryn Brochan, Talwrn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

10.2 VAR/2025/53 –  Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (05) o ganiatâd cynllunio rhif 28C397A (Newid defnydd adeilad allanol i annedd) er mwyn newid y dyluniad yn Dyfria, Tŷ Croes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

Cofnodion:

10.1       VAR/2025/6 – Cais o dan Adran 73A i amrywio amod (13) (Cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod 23C325 (newid defnydd yr adeilad allanol i annedd, addasu ac ehangu ynghyd a chodi modurdy a storfa goed) er mwyn cynyddu maint a diwygio dyluniad yr estyniad i'r cefn yn Bryn Brochan, Talwrn.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo er bod y cynnig yn groes i Bolisi TAI 7 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

Adroddodd yr Arweinydd Tîm bod y caniatâd cynllunio blaenorol, 23C325,  ar gyfer troi adeilad allanol yn annedd, ynghyd ag addasiadau ac estyniadau a chodi garej a storfa goed ym Mryn Brochan, Talwrn ei gymeradwyo ar 9 Medi, 2015.  Cymeradwywyd y cais cynllunio o dan y Cynllun Datblygu Lleol blaenorol, a oedd yn caniatáu troi adeiladau allanol yn anheddau preswyl. Mae’r caniatâd cynllunio blaenorol wedi cael ei ddiogelu drwy Dystysgrif Defnydd Cyfreithlon sy’n cadarnhau bod y gwaith ar y safle wedi cychwyn; felly, mae opsiwn wrth gefn ar gyfer y safle ac mae hyn yn ystyriaeth berthnasol.   Mae’r cynnig yn gwyro oddi wrth Bolisi TAI7 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd am ei fod yn darparu uned breswyl marchnad agored.  Fodd bynnag, mae opsiwn wrth gefn gan fod Tystysgrif Defnydd Cyfreithiol ar gyfer uned breswyl marchnad agored. Mae hyn yn ystyriaeth berthnasol yn nhermau cynllunio ac mae’n eithriadol o bwysig.  Dyma gais i amrywio’r cais a gafodd ei gymeradwyo’n flaenorol er mwyn cynyddu maint a newid dyluniad yr estyniad yn y cefn.  Roedd yr estyniad a gafodd ei gymeradwyo’n wreiddiol yn mesur 4.4m x 3.8m x 3.9m o uchder.  Bydd yr estyniad arfaethedig yn mesur 8.2m x 6.7m gydag uchder o rhwng 3 - 3.7m oherwydd lefel y tir ar y safle.  Bydd yr estyniad newydd yn cynnwys un ystafell wely ychwanegol, cegin newydd ac ardal fwyta ac eistedd.  Bydd yr estyniad yn cynyddu maint yr adeilad allanol gwreiddiol tua 61%.  Derbynnir fod hyn yn ychwanegiad sylweddol mwy na’r hyn a nodir yn y Canllawiau Cynllunio Atodol ar Ailadeiladu Tai a Throsi Adeiladau yng Nghefn Gwlad; fodd bynnag, gan ei fod yn Adeilad Rhestredig Gradd II, mae’r pwysigrwydd i warchod yr adeilad rhestredig adfeiliedig yn drech na’r canllawiau.  Mae dyluniad yr estyniad yn cyd-fynd â chymeriad hanesyddol yr adeilad rhestredig ac yn ei barchu.  Mae’r dyluniad a’r deunyddiau o ansawdd uchel a chredir bod diffiniad clir rhwng yr adeilad allanol gwreiddiol a’r estyniad newydd.   Mae’r cynnig yn cydymffurfio â’r safonau parcio ac yn darparu gwelliannau ecolegol digonol.  Mae’r Swyddog yn argymell caniatáu’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Ifan Jones bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

10.2 VAR/2025/53 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (05) o ganiatâd cynllunio rhif 28C397A (Newid defnydd adeilad allanol i annedd)  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10