12 Gweddill y Ceisiadau
PDF 3 MB
12.1 – FPL/2025/304 – Ysgol Uwchradd Bodedern, Bodedern
12.2 – FPL/2025/208 – 97 Stryd y Farchnad, Caergybi
12.3 – ADV/2025/14 – Oriel Ynys Môn, Llangefni
12.4 – FPL/2025/283 – Porthladd, Caergybi
12.5 – FPL/2025/275 – Aberhoccwn, Hermon
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 FPL/2025/304 – Cais llawn ar gyfer codi ffens 2.6m o uchder ac ailosod y gatiau presennol yn Ysgol Uwchradd Bodedern, Bodedern
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.2 FPL/2025/208 - Cais llawn ar gyfer dymchwel yr adeilad presennol ynghyd â chreu ardal mwynder cyhoeddus a gwaith cysylltiedig yn 97 Stryd y Farchnad, Caergybi.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar gwblhau i lefel boddhaol a derbyn canlyniadau’r arolwg TCC fel y gofynnwyd gan Dŵr Cymru.
12.3 ADV/2025/15 – Cais i leoli arwydd heb ei oleuo yn Oriel Ynys Môn, Llangefni.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.4 FPL/2025/283 – Cais llawn ar gyfer codi adeilad manwerthu di-doll newydd a bloc toiledau cwsmeriaid ym Morthladd Caergybi
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.5 FPL/2025/275 – Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw lloches cae yn Aberhoccwn, Hermon
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.
Cofnodion:
12.1 FPL/2025/304 – Cais llawn ar gyfer codi ffens 2.6m o uchder a newid y gatiau presennol yn Ysgol Uwchradd Bodedern, Bodedern
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor Sir yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir.
Adroddodd yr Arweinydd Tîm mai cais yw hwn i godi ffens 2.6m o uchder a chynyddu maint y giatiau yn Ysgol Uwchradd Bodedern. Bydd y ffens yn amgylchynu cwrtil gogledd-ddwyreiniol a deheuol yr ysgol, a bydd giatiau newydd 2.6m o uchder yn cael eu gosod yn lle’r giatiau presennol, 2m o uchder, yn ne orllewin y safle. Bydd y ffens yn cynnwys paneli metel wedi eu gorchuddio â haen o bowdr a’u paentio’n wyrdd. Bydd y ffens yn creu ffin benodol a diogel o amgylch yr ysgol er mwyn diogelu disgyblion a staff ac atal mynediad heb awdurdod a thresmasu. Bydd y ffens yn mesur 2.6m o uchder a chredir bod hynny’n ddigonol ac yn dderbyniol er mwyn diogelu’r safle’n well. Ni fydd y datblygiad yn edrych allan o le ac ni fydd yn effeithio ar unrhyw eiddo cyfagos. Bydd y ffens tua 45m oddi wrth yr eiddo preswyl agosaf. Bydd y cais yn gwella bioamrywiaeth drwy ddarparu blychau adar ar y coed presennol. Ni fydd unrhyw goed yn cael eu torri ac os oes coed â gwreiddiau sy’n mesur mwy na 25mm mewn diamedr ger y ffens arfaethedig, bydd y gwaith tyllu’n cael ei gwblhau â llaw yn unol ag argymhellion Swyddog Tirwedd y Cyngor. Ni fydd y cynnig yn cael effaith ar ddŵr wyneb a bydd bwlch ar waelod y ffens er mwyn caniatáu i ddŵr wyneb lifo fel sy’n digwydd ar hyn o bryd. Mae’r cais yn cydymffurfio â’r polisïau sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais gael ei ganiatáu yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Jeff Evans.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.2 FPL/2025/208 - Cais llawn ar gyfer dymchwel yr adeilad presennol ynghyd â chreu ardal amwynder cyhoeddus a gwaith cysylltiedig yn 97 Stryd y Farchnad, Caergybi.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor Sir yw’r ymgeisydd.
Adroddodd yr Arweinydd Tîm bod hwn yn gais llawn i greu mannau eistedd ar gyfer y gymuned ac ymwelwyr â’r ardal; bydd y datblygiad yn cynnwys sawl man eistedd, cerfluniau, gwaith tirweddu a nodwedd dŵr. Mae’r eiddo wedi’i leoli rhwng Stryd y Farchnad a Heol Fictoria, ac mae oddi mewn i Ardal Gadwraeth Caergybi.
Nododd bod cais Caniatâd Ardal Gadwraeth wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion fis Tachwedd diwethaf. Mae’r safle wedi’i leoli i’r gorllewin a’r de o Stryd y Farchnad ac i’r dwyrain o Heol Fictoria ac i’r gogledd o’r safle mae 89 Stryd y Farchnad. Mae adeilad a Senotaff rhestredig Gradd II i’r de orllewin ac i’r de o’r safle. Yn unol â’r diffiniad ym Mholisi Cynllunio ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12